Troellwyr

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriad o Cudyll-droellwr)
Troellwyr
Cudylldroellwr, Chordeiles minor, a Whiparwhîl, Caprimulgus vociferus
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Caprimulgiformes
Teulu: Caprimulgidae
Isdeuluoedd
Dosbarthiad

Teulu o adar hwyrol yw Troellwyr (Lladin: Caprimulgidae). Mae ganddyn nhw dair nodwedd sy'n gyffredin: adenydd hir, coesau byr a phigau byr. Maent yn nythu ar wyneb y ddaear yn hytrach na mewn coed. Fel arfer, pan sonia Cymro am Droellwr, mae'n cyfeirio at y Troellwr mawr.

Y gair Lladin am berson neu anifail sy'n sugno tethi gafr yw Caprimulgus a chredai'r hen Rufeiniaid fod aelodau'r teulu hwn yn yfed llaeth geifr. A dyna sut y cawsant yr enw gwyddonol. Gelwir rhai o Droellwyr y Byd Newydd yn 'Gudylldroellwyr.

Mae'r Troellwyr i'w canfod ledled y byd. Maen nhw'n hedfan yn y cyfnos neu yn y bore bach ac yn bwyta pryfaid mawr fel gwyfynnod.

Rhestr Wicidata:

rhywogaeth enw tacson delwedd
Eleothreptus candicans Eleothreptus candicans
Hebogdroellwr bach Siphonorhis brewsteri
Hebogdroellwr cyffredin Nyctidromus albicollis
Troellwr adeingrymanog Eleothreptus anomalus
Troellwr cynffondelyn y de Macropsalis forcipata
Troellwr cynffondelyn y gogledd Uropsalis lyra
Troellwr cynffonsiswrn y gogledd Uropsalis segmentata
Troellwr du Nyctipolus nigrescens
Troellwr gwenolaidd Nyctipolus hirundinaceus
Troellwr torchog Gactornis enarratus
Whiparwhîl bach Phalaenoptilus nuttallii
Diwedd y rhestr a gynhyrchwyd yn otomatig o Wicidata.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]