Crumblowers

Oddi ar Wicipedia
Crumblowers
Y Crumblowers yn perfformio yn Clwb Ifor Bach oddeutu 1989
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladCymru Edit this on Wikidata

Roedd y Crumblowers yn fand Cymraeg o faestref Yr Eglwys Newydd yng Gaerdydd oedd yn perfformio a recordio yn yr 1980au hwyr a 1990au cynnar.[1] oedd y Crumblowers. Roeddynt i gyd yn heblaw Dave Rizzo, yn gyn-ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, ysgol gyfun Gymraeg gyntaf Caerdydd. Aeth Owen Powell ymlaen i fod yn aelod o'r grŵp Catatonia a lwyddodd i gyrraedd y brig yn y byd canu Saesneg. Er mai enw Saesneg oedd y Crumblowers (a sillafwyd weithiau fel Crymblowers) yn y Gymraeg oeddynt yn canu. Roedd Owen a Lloyd Powell yn ddau frawd. Roedd y Crumblowers yn rhan o don o grwpiau Cymraeg ddaeth o Ysgol Glantaf gan ddechrau gydag U Thant ac yna Edrych am Jiwlia, Hanner Pei, Bili Clin, Cofion Ralgex a mwy. Bu Siôn Lewis yn gitarydd achlysurol i'r band.

Aelodau[golygu | golygu cod]

  • Owen Powell[2] (llais)
  • Lloyd Powell[2]
  • Owen Stickler (drymiau)
  • Lloyd Mahoney (gitâr)
  • Dave Rizzo (bâs)
  • Siôn Lewis (gitâr) aelod achlysurol

Recordiau[golygu | golygu cod]

Llithro Mewn i Ffantasi (EP), 1989[3]

Colossus (Sengl), 1990[3]

Dolenni[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "maes-e.com • Dangos pwnc - 27/09 U Thant / Crumblowers, Clwb Ifor". maes-e.com. Cyrchwyd 2022-08-28.
  2. 2.0 2.1 "Aelod o fand, fel Mam a Dad". BBC Cymru Fyw. 2019-04-17. Cyrchwyd 2022-08-28.
  3. 3.0 3.1 "Crumblowers". Discogs (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-08-28.


 Mae'r erthygl hon yn Eginyn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ei datblygu.