Crug crwn Rhewl

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Crug crwn a godwyd gan bobl Oes yr Efydd fel rhan o'u seremonïau neu i gladdu'r meirw ydy Crug crwn Rhewl, ger pentrefan Rhewl yng nghymuned Llanynys, ger Rhuthun yn Sir Ddinbych; cyfeiriad grid SJ113603. Mae'n un o ddau grug gerllaw ei gilydd a gellir eu gweld yn y cae i'r de-ddwyrain o'r hen orsaf drenau.

Cofrestrwyd y crug hwn gan Cadw a chaiff ei adnabod gyda'r rhif SAM: DE167.[1] Ceir bron i 400 o grugiau crynion ar y gofrestr; mwy nag unrhyw fath arall o heneb.

Codwyd crugiau crynion yn gyntaf tua 3000 C.C. a pharhaodd yr arfer hyd at ddiwedd Oes yr Efydd (tua 600 C.C.) gyda'r mwyafrif ohonyn nhw'n cael eu codi rhwng 2400 - 1500 C.C.[2]

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Mathau gwahanol o henebion a ddefnyddir mewn arferion claddu:

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dolen allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

CymruDinbych.png Eginyn erthygl sydd uchod am Sir Ddinbych. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato