Cronfa Dinas
Gwedd
| Math | cronfa ddŵr |
|---|---|
| Daearyddiaeth | |
| Gwlad | |
| Cyfesurynnau | 52.422682°N 3.84605°W |
| Gwleidyddiaeth | |
| Rheolir gan | Statkraft AS |
![]() | |
Cronfa ddŵr yng Ngheredigion yw Cronfa Dinas. Creuwyd y llyn ar afon Rheidol trwy godi argae ar yr afon honno fel rhan o waith hydroelectrig Cwm Rheidol.
Mae'r gronfa yn llyn 38 acer sy'n gorwedd yng Nghwm Rheidol tua milltir i'r gogledd o bentref Ponterwyd. Bwydir y gronfa gan ddŵr afon Rheidol ei hun, sy'n llifo o gronfa Nant-y-moch i'r gogledd, ar lethrau Pumlumon, a gan ffrwd sy'n llifo o Lyn Syfydrin, i'r gogledd-orllewin.
