Copa Adda

Oddi ar Wicipedia
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Copa Adda
Adam's Peak - February 2020 (4).jpg
Mathmynydd Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirRatnapura district Edit this on Wikidata
GwladBaner Sri Lanca Sri Lanca
Uwch y môr2,243 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau6.8094°N 80.4997°E Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddCentral Massif Edit this on Wikidata
Map

Mynydd o siâp pigyrnaidd yng nghanolbarth Sri Lanca yw Copa Adda (Sinhaleg, Samanalakanda "Mynydd glöyn byw"; Tamileg, Sivanolipatha Malai; Saesneg Adam's Peak neu Adam's Mount). Mae'n adnabyddus fel lleoliad y Sri Pada ("ôl troed sanctaidd"), craig 1.8 m ger y copa, sy'n sanctaidd yn nhraddodiad Bwdhaeth fel ôl troed y Bwdha, i Hindŵiaid fel ôl troed y duw Shiva ac i Fwslemiaid fel ôl troed Adda. Am hynny mae'n gyrchfan pererindod gan Fadwyr, Hindwiaid a Mwslemiaid, ac i raddau llai gan Gristnogion ac Iddewon (oherwydd y cysylltiad honedig ag Adda'r Beibl).

Gorwedd y mynydd ym mharthau deheuol Ucheldiroedd y Canolbarth, yn ardal Ratnapura yn nhalaith Sabaragamuwa, tua 20 km i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain o ddinas Ratnapura.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Flag of Sri Lanka.svg Eginyn erthygl sydd uchod am Sri Lanca. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.