Conrad Black
Conrad Black | |
---|---|
Ganwyd | 25 Awst 1944 Montréal |
Man preswyl | Toronto |
Dinasyddiaeth | Canada, y Deyrnas Unedig |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, hanesydd, cyhoeddwr, hunangofiannydd, cofiannydd, person busnes, colofnydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol |
Tad | George Montegu Black II |
Mam | Jean Elizabeth Riley |
Priod | Barbara Amiel, Shirley Gail Walters Hishon |
Plant | Jonathan David Conrad Black, Alana Whitney Elizabeth Black, James Patrick Black |
Gwobr/au | Swyddog Urdd Canada |
Awdur, colofnydd, cyhoeddwr, buddsoddwr, ac aelod o Dŷ'r Arglwyddi y Deyrnas Unedig a aned yng Nghanada yw Conrad Moffat Black, Barwn Black o Crossharbour, OC, PC (Can.), KCSG (ganwyd 25 Awst 1944) oedd am bryd yn fogwl papurau newydd trydydd fwyaf y byd.[1] Rheolodd Hollinger International, Inc. Trwy gwmnïau cyswllt, cyhoeddodd y cwmni nifer o bapurau newydd mawr gan gynnwys The Daily Telegraph (y DU), Chicago Sun Times (UDA), Jerusalem Post (Israel), National Post (Canada), a channoedd o bapurau cymunedol yng Ngogledd America. Ganwyd Black ym Montreal, ond ildiodd ei ddinasyddiaeth Ganadaidd yn 2001 er mwyn dod yn aelod o Dŷ'r Arglwyddi. Mae'n briod i'r colofnydd ceidwadol Barbara Amiel.
Cafwyd yn euog o dwyll gan lys Americanaidd yn 2007 a dedfrydwyd i chwe mlynedd a hanner yn y carchar. Ar 19 Gorffennaf 2010 cafodd Black ei fechnïo. Dymchwelwyd dau o'r tri chyhuddiad olaf o dwyll post ym mis Hydref 2010 gan 7fed Lys Cylchdaith Apeliadau'r Unol Daleithiau.[2] Ar 24 Mehefin 2011 ailddedfrydwyd ar y cyhuddiad olaf o dwyll post ac un gyhuddiad o rwystro cyfiawnder gan dderbyn 42 mis yn y carchar a dirwy o $125,000 (USD). Cynhwysir y 29 mis y mae Black wedi gwasanaethu'n barod yn y ddedfryd hon, ac felly mae'n rhaid iddo ddychwelyd i'r carchar am 13 mis arall.[3] Wedi iddo ddychwelyd i garchar ym Miami ym mis Medi, cafodd ei ryddhau'n gynnar ar 4 Mai 2012 am ymddygiad da.[4]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Conrad Black: Where did it all go wrong. BBC (27 Chwefror 2004).
- ↑ (Saesneg) Conrad Black granted bail. Toronto Star (19 Gorffennaf 2010).
- ↑ (Saesneg) Black sent back to jail for 13 months. Globe and Mail (24 Mehefin 2011).
- ↑ (Saesneg) Conrad Black released from Miami prison. BBC (4 Mai 2012).
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Genedigaethau 1944
- Arglwyddi am oes
- Bywgraffyddion
- Catholigion o Ganada
- Catholigion o'r Deyrnas Unedig
- Colofnwyr o Ganada
- Colofnwyr o'r Deyrnas Unedig
- Cyhoeddwyr papurau newydd
- Hanesyddion yr 20fed ganrif o Ganada
- Hanesyddion yr 20fed ganrif o'r Deyrnas Unedig
- Hanesyddion yr 21ain ganrif o Ganada
- Hanesyddion yr 21ain ganrif o'r Deyrnas Unedig
- Hanesyddion Saesneg o Ganada
- Hanesyddion Saesneg o'r Deyrnas Unedig
- Hunangofianwyr Saesneg o Ganada
- Hunangofianwyr Saesneg o'r Deyrnas Unedig
- Pobl a gafwyd yn euog o rwystro cyfiawnder
- Pobl a gafwyd yn euog o dwyll
- Pobl fusnes o Ganada
- Pobl fusnes o'r Deyrnas Unedig
- Pobl o Montréal
- Pobl o Toronto
- Troseddwyr o Ganada