Neidio i'r cynnwys

Confessions of an English Opium-Eater

Oddi ar Wicipedia
Confessions of an English Opium-Eater
Enghraifft o'r canlynolgwaith llenyddol Edit this on Wikidata
AwdurThomas De Quincey Edit this on Wikidata
GwladLloegr Edit this on Wikidata
IaithSaesneg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1822 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu1821 Edit this on Wikidata
Genrehunangofiant Edit this on Wikidata
Olynwyd ganOn the Knocking at the Gate in Macbeth Edit this on Wikidata
Prif bwncLodnwm Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Hunangofiant gan Thomas De Quincey yw Confessions of an English Opium-Eater am ei fwynhad a'i ddibyniaeth ar opiwm a'r effeithiau ar ei fywyd. Cyhoeddwyd yn anhysbys ym mis Hydref 1821 yn y London Magazine; marciodd man cychwyn ei enwogrwydd fel awdur. Rhyddhawyd fel llyfr gydag enw De Quincey arno'n 1822.

Mae'r llyfr yn cyfuniad o atgofion cyffesol, traethiad cynhyrfus o brofiad yr un sy'n cymryd opiwm a datgeliad newyddiadurol.[1] Nod honedig yr awdur oedd i rybuddio'r darllenydd rhag cymryd y cyffur, drwy gyflwyno disgrifiadau arddulliol o hynt ei ddibyniaeth, o synfyfyrdodau iwfforig i hunllefau arswydus.

Mae’r llyfr bellach yn cael ei weld fel clasur a'r cofiant cyffuriau neu'r lyfr Beatnic cyntaf. [2]

Bangor a Llanystumdwy[golygu | golygu cod]

Yn rhan un o’r llyfr mae tad De Quincey yn farw pan oedd yn saith oed. Yn fachgen ifanc, mynychodd nifer o ysgolion bonydd. Er ei fod yn gwerthfawrogi un athro yn Eton, roedd yn edrych i lawr ar ei athrawon yn bennaf oherwydd nad oeddent mor rhugl ag yr oedd yn yr iaith hen Roeg. Yn ddwy ar bymtheg, rhedodd i ffwrdd o'i ysgol.

Cychwynnodd ar droed gyda dim ond ei ddillad a dau lyfr gan gyrraedd gogledd Cymru ac yn aros gyda Mrs Betty "housekeeper to the Bishop of B—". Mae’n debyg Bangor, oedd y “B_” a William Cleaver oedd yr archesgob. Mae’r archesgob yn cwyno am De Quincey gan feddwl ei fod yn dwyllwr da i ddim ac yn gorfodi Mrs Betty i ddweud wrth De Quincey i adael. [3][4]

Mae De Quincey wedyn yn symud ymlaen i "Llan-y-styndw (or some such name), in a sequestered part of Merionethshire" gan aros y tro yma gyda chriw o bobl ifanc cyfeillgar a charedig. Pedwar o chwiorydd a thri o frodyr "They spoke English, an accomplishment not often met with in so many members of one family, especially in villages remote from the high road". Roedd rhieni’r Cymry ifanc wedi mynd i gyfarfod blynyddol y Methodistaidd yng Nghaernarfon. Ond mae De Quincey yn gadael Llanystumdwy pan mae’r rhieni’n dod yn ôl "The parents returned with churlish faces, and “Dym Sassenach” (no English) in answer to all my addresses".

Llundain[golygu | golygu cod]

Mae De Quincey wedyn yn teithio i Lundain gan gael ei hun yn ddigartref ac heb fwyd. Llwyddod gael lle i aros mewn fflat gwag. Rhannodd y fflat gyda merch fach oedd yn ofni ysbrydion.

Yn ogystal â’r ferch fach, roedd Quincey hefyd yn gyfaill i Ann, putain pymtheg oed brynodd botel o win iddo pan oedd yn marw o newyn. Cofiodd De Quincey ei charedigrwydd am weddill ei oes, ond er iddo ddychwelyd i Lundain nes ymlaen i chwilio, fethodd ddod o hyd iddi. Wedi blino ar dlodi, roedd rhaid De Quincey cymodi â’i deulu. Gydag arian y teulu aeth i Brifysgol Rhydychen.[5]

Pleser a phoen[golygu | golygu cod]

Mae disgrifiadau ei brofiadau opiwm yn rhan ddau o’r llyfr: sydd wedi rhannu "The Pains of Opium" a "The Pleasures of Opium". [6]

Er i De Quincey gael ei feirniadu’n ddiweddarach am roi gormod o sylw i bleser opiwm a dim digon i broblemau caethiwed, mae'r rhan "The Pains" yn sylweddol hirach na "The Pleasures". Fodd bynnag, hyd yn oed wrth geisio cyfleu gwirioneddau tywyllach, gall iaith De Quincey ymddangos wedi’i hudo gan brofiad opiwm:

“Rhedais i mewn i bagodas, wedi dal yn sownd am ganrifoedd ar y copa neu mewn ystafelloedd dirgel: fi oedd y duw; fi oedd yr offeiriad; Fe'm haddolwyd; Cefais fy aberthu. Wnes i ddianc rhag ddicter Brama trwy holl goedwigoedd Asia: Vishnu’n fy nghasau: Seeva yn aros amdanaf. Yn sydyn ddes i ar draws  Isis ac Osiris: roeddwn wedi gwneud, dywedon nhw, i achosi yr Ibis a'r crocodeil i grynnu. Fe'm claddwyd am fil o flynyddoedd mewn eirch cerrig, gyda mymïau a sffincsau, mewn siambrau cul yng nghanol pyramidau tragwyddol. Cefais fy nghusanu, gyda chusanau canseraidd crocodeiliaid; ac wedi gorwedd, wedi drysu gyda phob peth seimllyd ‘sglyfaethus ymysg brwyn a mwd yr Afon Nîl.”

Sylweddolodd De Quincey byddai'n marw oni bai ei fod yn lleihau ei ddefnydd o opiwm, llwyddodd hynny er gwaethaf sgîl-effeithiau poenus iawn ac yn dioddef llawer hunllefau opiwm wedyn.

Ar ddiwedd y llyfr Mae de Quincey yn dymuno pob lwc i bawb arall wrth geisio roi'r gorau iddi.[7]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]