Cofair
Gair, ymadrodd, delwedd neu unrhyw ddyfais feddyliol arall sy'n cynorthwyo'r cof yw cofair[1] neu mnemonig.[2] Egwyddor y dechneg hon yw i greu yn y meddwl strwythur sy'n ymgorffori delweddau syml neu unigryw er mwyn dwyn i'r cof syniadau sydd fel arall yn anodd eu hatgofio.
Ceir nifer o gofeiriau poblogaidd ar ffurf brawddegau bachog, rhigymau neu benillion cwta, acronymau, ac acrostigau. Defnyddid systemau mnemonig cymhlyg megis dull loci ers cyfnod yr hen Roegwyr a'r Rhufeiniaid: mae'r unigolyn yn creu symbolau, straeon neu strwythurau arall yn ei feddwl er mwyn cofio nifer fawr o ffeithiau a chysyniadau. Ymhlith yr amryw ddulliau mnemonig eraill mae cysylltu geiriau â'i gilydd, cysylltu rhifau â geiriau neu siapiau (er enghraifft ffon am 1, alarch am 2, ac ati), a gosod gwybodaeth mewn grwpiau (dull poblogaidd i gofio cyfresi o ddigidau megis rhifau ffôn).[3]
Enghreifftiau o gofeiriau Cymraeg
[golygu | golygu cod]Gellir cofio seithliw'r enfys drwy sylwi ar briflythrennau'r geiriau yn y frawddeg: "Caradog o'r Mynydd Gafodd Gig I'w Fwyta" (Coch, Melyn, Gwyrdd, Glas, Indigo, Fioled).[4]
Arferid plant ysgol ddysgu'r planedau yng Nghysawd yr Haul drwy'r frawddeg: "Mewn Gwely Du y Mae Ianto'n Sâl Wedi Naw" (Mercher, Gwener, Daear, Mawrth, Iau, Sadwrn, Wranws, Neifion).
Gellir canu'r arddodiaid Cymraeg i dôn y gân werin "Migildi Magildi" er mwyn eu cofio: "Am, ar, at, gan, heb, i, o, dan, dros, trwy, wrth, hyd, hei now now".
Mathemateg
[golygu | golygu cod]Mae'r mnemonigau canlynol yn seiliedig yn bennaf ar nodiadau gan Dr Gareth Evans, Pennaeth Adran Mathemateg Ysgol y Creuddyn, Conwy[5]:
- 1. CORLAT
- Cromfachau O flaen Rhannu Lluosi Adio Tynnu
Mae'n cyfleu trefn gweithrediadau. Mae'n bosibl i'r cofair hwn ddod o'r un tebyg Saesneg BODMAS neu BIDMAS; yn anffodus nid yw'r un Gymraeg yn sôn am bwerau/indecsau fel yn yr un Saesneg (nid yw CPRLAT neu CIRLAT yn swnio ru'n fath rhywsut!)
- 2. CAMO
- Cyntaf Allanol Mewnol Olaf
Cofair sy'n atgoffa'r person sut i ehangu cromfach ddwbl (a + b)(c + d)
- CYNTAF ac
- ALLANOL ad
- MEWNOL bc
- OLAF bd
- 3. F/Ll (wedi ei osod fel ffracsiwn)
- Fertigol rhannu efo Llorweddol
Canllaw i gofio sut i gyfrifo graddiant llinell, ond y mnemonig yw "Ffrâm dros y llun". Y syniad fan hyn yw bod myfyrwyr yn aml yn cyfrifo Llorwedd ÷ Fertigol yn lle Fertigol ÷ Llorwedd, felly gan gofio "Ffrâm dros y llun" maent yn cofio i wneud Fertigol ÷ Llorweddol yn gywir. Mae'n bosib rhoi ffrâm dros lun, ond nid yw'n bosib rhoi llun dros ffrâm!
- 4. SCH-CAH-TCA
- Dyma'r fersiwn Gymraeg o SOHCAHTOA, gyda "Cyferbyn; Agos; Hypotenws" yn lle "Opposite; Adjacent; Hypotenuse". Yn aml trefnir cystadleuaeth rhwng y disgyblion i lunio mnemonig ar gyfer hwn.
Mae’r actor Maureen Rhys yn dwyn i gof y mnemonig Cododd Alun Hughes // Saith O Hogia // Tew O’r Afon
er mwyn helpu cofio’r cymarebau trigonometrig – dull y mae’n ei gofio o’i dyddiau yn Ysgol Brynrefail o’r 1950au. Ond, wrth gwrs, mnemonig Cymraeg yw hwn i gofio’r cymarebau Saesneg (SOHCAHTOA).
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ cofair. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 12 Mawrth 2016.
- ↑ mnemonig. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 12 Mawrth 2016.
- ↑ (Saesneg) mnemonic. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 13 Mawrth 2016.
- ↑ D. Geraint Lewis. Lewisiana (Aberystwyth, Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf., 2005), t. 44.
- ↑ Drwy law Dr Gareth Ffowc Roberts.