Coety

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Coety
Math Pentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Pen-y-bont ar Ogwr Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.5212°N 3.5525°W Edit this on Wikidata
Cod OS SS923814 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/au Carwyn Jones (Llafur)
AS/au Madeleine Moon (Llafur)

Pentref o fewn Cymuned Coety Uchaf yw Coety, a saif ym mwrdesitref sirol Pen-y-bont ar Ogwr. Roedd yma boblogaeth o 2,071 yng Nghyfrifiad 2011. Yn y pentref mae Castell Coety, lle bu'r fyddin Gymreig, dan arweiniad y Tywysog Owain Glyn Dŵr yn gwarchae am dros flwyddyn a thri mis; yma hefyd y defnyddiwyd powdwr gwn yng Nghymru am y tro cyntaf, hyd y gwyddus.

Mae'r hen eglwys, y Santes Fair, yn dyddio i'r 14g.[1] Ceir yma hefyd heneb llawer hynach, sef siambr gladdu ger coedwig Coed Parc Garw. Ceir carreg draws sy'n gwyro i fyny rhyw ychydig a nifer o gerrig llai sy'n ei gynnal.[2]

Saif Mynydd Coety (y ffin) gerllaw, gyda'i gopa'n ffin rhwng Castell-nedd a Chas-gwentcyfeiriad grid SO232080.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). Gwyddoniadur Cymru. Caerdydd: University of Wales Press. p. 160. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  2. Daniel, Glynn (1950). The prehistoric chamber tombs of England and Wales. Cambridge: Cambridge University Press. p. 210.