Codwr gwastraff

Oddi ar Wicipedia
Codwr gwastraff
Enghraifft o'r canlynolgalwedigaeth Edit this on Wikidata
Mathgweithiwr llaw Edit this on Wikidata
Chwilota ymhlith tomen o wastraff yn Jakarta, Indonesia

Mae godwr gwastraff yn berson sy'n chwilio am ddeunyddiau y gellir eu hailddefnyddio neu eu hailgylchu ac sy'n cael eu taflu gan eraill i'w gwerthu neu i'w defnyddio'n bersonol.[1] Ceir miliynau o godwyr gwastraff ledled y byd, yn bennaf mewn gwledydd sy'n datblygu, ond yn gynyddol mewn gwledydd ôl-ddiwydiannol hefyd.[2] Mae casglwr gwastraff (hen enw: dyn lludw) yn berson sy'n casglu sbwriel neu wastraff ar gyfer safle tirlenwi neu losgydd, nid o reidrwydd ar gyfer cyfleuster ailgylchu.

Mae gwahanol fathau o godi gwastraff, ond dechreuodd y traddodiadau modern o godi gwastraff yn ystod y cyfnod diwydiannol yn y 19g.[3] Rhwng y 1980au a'r 2020au, mae codi gwastraff ailgylchu wedi ehangu'n esbonyddol yn y byd sy'n datblygu oherwydd trefoli, gwladychiaeth wenwynig a'r fasnach wastraff fyd-eang.[4] Mae llawer o ddinasoedd yn darparu gwasanaeth codi gwastraff solet yn unig.[5]

Yn 2008, bathwyd y term codwyr gwastraff yng Nghynhadledd y Byd Cyntaf o Godwyr Gwastraff sef yn yr iaith wreiddiol "waste picker", i hwyluso cyfathrebu byd-eang. Mae'r term "scavenger" hefyd yn cael ei ddefnyddio'n gyffredin yn Saesneg, ond mae llawer o godwyr gwastraff yn ei chael yn ddiraddiol oherwydd y gymhariaeth ymhlyg ag anifeiliaid.[6]

Mae casglwr gwastraff yn wahanol i gasglwr sbwriel oherwydd gall y gwastraff a gesglir gan yr olaf fod ar gyfer safle tirlenwi neu losgydd, nid o reidrwydd ar gyfer cyfleuster ailgylchu.

Cyffredinrwydd a demograffeg[golygu | golygu cod]

Ym 1988, amcangyfrifodd Banc y Byd fod 1–2% o boblogaeth y byd yn byw drwy gasglu gwastraff i'w ailgylchu.[7] Amcangyfrifodd astudiaeth yn 2010 bod 1.5 miliwn o godwyr gwastraff yn India yn unig.[8] Cesglir yr ystadegau swyddogol mwyaf cadarn ar godwyr gwastraff gan Lywodraeth Brasil, sy'n amcangyfrif bod bron i chwarter miliwn o'i dinasyddion yn godwyr gwastraff.[9]

Mae incwm codwyr gwastraff yn amrywio'n fawr yn ôl lleoliad, math o waith, a rhyw. Mae rhai codwyr gwastraff yn byw mewn tlodi eithafol, ond mae llawer o rai eraill yn ennill sawl gwaith isafswm cyflog eu gwlad. Dengys astudiaethau diweddar bod casglwyr gwastraff yn Belgrade, Serbia, yn ennill tua US$3 y dydd,[10] tra bod codwyr gwastraff yn Cambodia fel arfer yn ennill $1 y dydd.[11] Ym Mrasil, mae dynion yn ennill mwy na merched, waeth beth fo'u hoedran, gyda dwy ran o dair o godwyr gwastraff Brasil yn ddynion yn gyffredinol.[12]

Achosion[golygu | golygu cod]

Mewn gwledydd sy'n datblygu[golygu | golygu cod]

Codwr gwastraff yn Indonesia

Dros yr hanner canrif ddiwethaf (hyd at 2020), roedd mudo o fewn y wlad a chyfraddau ffrwythlondeb cynyddol wedi achosi i boblogaeth dinasoedd yn y byd sy'n datblygu godi gryn dipyn.[13] Mae llawer o’r boblogaeth newydd wedi ymgartrefu mewn slymiau trefol ac aneddiadau sgwatwyr, sydd wedi ehangu’n gyflym heb unrhyw gynllunio canolog. Canfu Adroddiad Cynefin y Cenhedloedd Unedig fod bron i biliwn o bobl ledled y byd yn byw mewn slymiau, tua thraean o drigolion trefol y byd.[13]

Cynyddodd y trefoli cyflym hwn y galw am wasanaethau codi gwastraff anffurfiol, gan nad oedd gan ddinasoedd y seilwaith a'r adnoddau i gasglu'r holl wastraff a gynhyrchir gan eu trigolion. Er gwaethaf gwario 30-50% o gyllidebau gweithredu ar reoli gwastraff, mae dinasoedd y byd sy'n datblygu heddiw yn casglu dim ond 50-80% o'r sbwriel a gynhyrchir gan eu trigolion. Mae trigolion a busnesau yn aml yn troi at losgi sbwriel neu ei waredu mewn strydoedd, afonydd, rhandiroedd gwag, a thomenni agored.[14] Mae hwn yn ffynhonnell llygredd aer, tir a dŵr ac yn bygwth iechyd dynol a'r amgylchedd. Mae'r codwr gwastraff anffurfiol yn helpu i liniaru'r niwed hwn trwy gasglu deunyddiau y gellir eu hailgylchu mewn certi gwthio, beiciau tair olwyn, troliau mulod, troliau ceffylau, a thryciau codi.[15]

Peryglon galwedigaethol[golygu | golygu cod]

Dyn ifanc yn Wganda sy'n gweithio mewn tomen wastraff. Oherwydd y lleoliad budr ac amodau gwaith, mae siawns uchel o ddal afiechyd neu anaf wrth weithio fel codwr gwastraff mewn rhai amgylcheddau.

Ceir nifer fawr o glefydau ymhlith codwyr gwastraff oherwydd eu bod yn gafael mewn deunyddiau peryglus fel baw dynol, papur wedi'i ddirlawn gan ddeunyddiau gwenwynig, poteli a chynwysyddion â gweddillion cemegol, nodwyddau budr,  a metelau trwm o fatris.[16] Canfu astudiaeth yn Ninas Mecsico fod hyd oes codwr gwastraff safle dympio ar gyfartaledd yn 39 mlwydd oed, o'i gymharu â'r cyfartaledd cenedlaethol o 69 mlynedd,[17] er bod astudiaeth ddiweddarach gan Fanc y Byd yn amcangyfrif ei oes yn 53 mlynedd.[18] Yn Port Said, yr Aifft, dangosodd astudiaeth ym 1981 gyfradd marwolaethau babanod o 1/3 ymhlith casglwyr gwastraff hy mae un o bob tri babi yn marw cyn cyrraedd un oed.[19]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. Srinivas, Hari. "Solid Waste Management: Glossary". The Global Development Research Center. Cyrchwyd 13 November 2011.
  2. Gowan, Teresa (1997). "American Untouchables: Homeless Scavengers in San Francisco's Underground Economy". International Journal of Sociology and Social Policy 17 (3/4): 159–190. doi:10.1108/eb013304.
  3. Martin, Medina (2007). The World's Scavengers: Salvaging for Sustainable Consumption and Production. New York: Altamira Press.
  4. Wilson, D. C., Velis, C., Cheeseman, C. (2005). Role of informal sector in recycling in waste management in developing countries. London: Department of Civil and Environmental Engineering, Centre for Environmental control and Waste Management.
  5. Scheinberg; Justine Anschütz (December 2007). "Slim pickin's: Supporting waste pickers in the ecological modernisation of urban waste management systems". International Journal of Technology Management and Sustainable Development 5 (3): 257–27. doi:10.1386/ijtm.5.3.257/1.
  6. Samson, Melanie (2008). Refusing to be Cast Aside: Waste Pickers Organizing Around the World. Cambridge, Massachusetts: WIEGO. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-08-08. Cyrchwyd 2023-05-10.
  7. Bartone, C. (January 1988). "The Value in Wastes". Decade Watch.
  8. Chaturvedi, Bharati (2010). "Mainstreaming Waste Pickers and the Informal Recycling Sector in the Municipal Solid Waste". Handling and Management Rules 2000, A Discussion Paper.
  9. Helena, Maria; Tarchi Crivellari; Sonia Dias; André de Souza Pena. WIEGO Fact Sheet: Waste Pickers Brazil. http://wiego.org/sites/wiego.org/files/resources/files/Fact-Sheet-Waste-Pickers-Brazil.pdf. Adalwyd 15 December 2011.
  10. Simpson-Hebert, Mayling, Aleksandra Mitrovic and Gradamir Zajic (2005). A Paper Life: Belgrade's Roma in the Underworld of Waste Scavenging and Recycling. Loughborough: WEDC.
  11. ILO/IPEC. "Addressing the Exploitation of Children in Scavenging (Waste Picking): A Thematic Evaluation of Action on Child Labour (2004)". International Labour Office. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-09-19. Cyrchwyd 15 December 2011.
  12. Tarchi Crivellari, Helena Maria, Sonia Maria Dias and André de Souza Pen (2008). "Informação e trabalho: uma leitura sobre os catadores de material reciclável a partir das bases públicas de dados" in Catadores na Cena Urbana: Construção de Políticas Socioambientais (V. H. Kemp, & H.M.T. Crivellari, ed). Belo Horizonte: Autêntica Editora.
  13. 13.0 13.1 UN Habitat (2003). The Challenge of Slums: Global Report on Human Settlements. London: Earthscan.
  14. Medina, Martin (2000). "Scavenger cooperatives in Asia and Latin America". Resources, Conservation and Recycling 31: 51–69. doi:10.1016/S0921-3449(00)00071-9.
  15. Medina, Martin (2005). "Co-operatives benefit waste recyclers". Appropriate Technology. Buckinghamshire, U.K. 32 (3).
  16. Binion,E.; Gutberlet, J. (March 2012). "The effects of handling solid waste on the wellbeing of informal and organized recyclers: a review of the literature". International Journal of Occupational and Environmental Health 18 (1): 43–52. doi:10.1179/1077352512z.0000000001. PMID 22550696. http://pswm.uvic.ca/wp-content/uploads/2012/05/Read-the-Publication9.pdf. Adalwyd 2012-02-23.
  17. Castillo, H. (1990). La Sociedad de la Basura: Caciquismo Urbano en la Ciudad de México. Second Edition. Mexico City: UNAM.
  18. Bernstein, J. (2004). Toolkit: Assessment and Public Participation in Municipal Solid Waste Management. Washington D.C.: The World Bank.
  19. Etribi, T.L. (1981). The People of the Gabbal: Life and work among the Zabbaleen of Manshiyet Nasser. Cairo: Environmental Quality International.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]