Neidio i'r cynnwys

Clwb Golff Llanisien

Oddi ar Wicipedia
Clwb Golff Llanisien
Enghraifft o:clwb chwaraeon Edit this on Wikidata
Map
Dynodwyr

Mae Clwb Golff Llanisien (Saesneg: Llanishen Golf Club) yn gwrs golff yn y Ddraenen, i'r gogledd o faestref Llanisien yng ngogledd Caerdydd. Lleolir y cwrs yr ochr draw i Draffordd yr M4 wrth ddod o Gaerdydd.[1] Mae cwrs y parcdir, a oedd yn 5,338 llath yn 2005, ar odrau Mynydd Caerffili.[2]

Yr olygfa o dwll rhif 18 ar y cwrs golff gan edrych dros ddinas Caerdydd (2019)
Golygfa o'r Clwb Golff i'r de tuag at dinas Caerdydd (2007)

Sefydlwyd Clwb Golff Llanisien ym 1905.[3] Dechreuodd yn wreiddiol fel Clwb Golff Llys-faen, a oedd yn rhagddyddio Clwb Golff Radur (a sefydlwyd yn 1902).[4]

Ar Fferm Tŷ Mawr roedd y cwrs gwreiddiol. Roedd ganddo naw twll, ond fe'i helaethwyd i greu 18 twll ym 1924 pan ganiataodd Ernest Prosser i'r clwb brydlesu ei dir. Symudwyd y cwrs ‘oddi ar y Mynydd’ ac agorwyd y cynllun newydd ym mis Ebrill 1939.

Ar ôl y Rhyfel lluniwyd rhaglen gwblhau lawn, gan ddechrau ym 1946 gydag estyniad i'r clwb ond bu'n rhaid aros nes 1948 cyn y caniataodd Pwyllgor Amaeth Rhyfel Morgannwg ddychwelyd 4 twll i’r clwb oedd wedi eu meddiannu adeg argyfwng y Rhyfel. Golygai hynny bod angen aros nes 1950 pan oedd modd ailddatblygu’r tyllau hyn a chwarae ar gwrs 18 twll fel y bu cyn y Rhyfel.

Pobl nodweddol

[golygu | golygu cod]

Y bersonoliaeth golff amlycaf y mae Clwb Golff Llanisien wedi'i chynhyrchu oedd Jill Edwards.[angen ffynhonnell] Gan gynrychioli Cymru ym 1962, aeth ymlaen i ddod yn Bencampwr Merched Morgannwg ym 1966 ac ym 1968. Wedi ei gyrfa chwarae roedd ganddi rôl weinyddol gydag Undeb Golff Merched Cymru, Undeb Golff y Merched a Chyngor Chwaraeon Cymru. Ym Mehefin 1995 agorwyd adeilad presennol y Clwb.

Gwobrau

[golygu | golygu cod]

Enillodd y clwb wobr Tîm y Flwyddyn GCMA (Golf Club Managers Award) ym mis Tachwedd 2019, gan guro dros 2500 o glybiau golff eraill a sicrhau teitl Clwb Golff y Flwyddyn Cymru yn 2022.[5]

Gwaith datblygu

[golygu | golygu cod]

Ym mis Ebrill 1995 agorwyd clwb newydd, gyda chlwb a bar lolfa a bwyty.[2][6] Rhwng 2007 a 2009 bu newid, gyda rhaglen ddraenio i leihau lleithder ar y lawntiau, ac o ganlyniad maent ymhlith y sychaf yng Nghymru.[7] Ym mis Awst 2015 tyllodd golffiwr 86 oed dwll-mewn-un o'r 16eg par tee 3.[8]

'Llwybr Nant Fawr'

[golygu | golygu cod]

Mae'r Clwb Golff yn rhan o Lwbr Nant Fawr - llwybr hamdden a chwaraeon ar hyd ogledd Caerdydd, a hysbysir gan Gyngor Dinas Caerdydd. Mae'r llwybr yn cychwyn ger hen felin y Rhath yn ne'r ddinas ac yn gorffen ger y Clwb Golff.[9]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Llwybr Nant Fawr, Cyngor Dinas Caerdydd, https://www.outdoorcardiff.com/wp-content/uploads/Chwaraeon-a-hamdden-ar-hyd-Llwybr-Nant-Fawr.pdf, adalwyd 20 Medi 2024
  2. 2.0 2.1 The Golf Guide Britain and Ireland. Hunter Publishing, Incorporated. January 2005. t. 499. ISBN 978-1-58843-413-5.
  3. "Llanishen". Golf Today. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-10-07. Cyrchwyd 12 Ebrill 2016.
  4. Carradice, Trudy (24 Medi 2013). Golf in Wales: A Pictorial History. Amberley Publishing Limited. t. 42. ISBN 978-1-4456-2347-4.
  5. "Club History". Gwefan Clwb Golff Llanisien. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2024-09-20. Cyrchwyd 20 Medi 2024.
  6. "Llanishn Golf Club". VisitWales. Cyrchwyd 12 Ebrill 2016.
  7. "Llanishen Golf Club". South Wales Argus. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-04-28. Cyrchwyd 12 Ebrill 2016.
  8. "Golfer aged 86 finally sinks hole-in-one after more than 50 years of trying". Daily Mirror. 24 Awst 2015. Cyrchwyd 12 Ebrill 2016.
  9. Llwybr Nant Fawr, Cyngor Dinas Caerdydd, https://www.outdoorcardiff.com/wp-content/uploads/Chwaraeon-a-hamdden-ar-hyd-Llwybr-Nant-Fawr.pdf, adalwyd 20 Medi 2024

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Eginyn erthygl sydd uchod am golff. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.