Clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint
Chronic obstructive pulmonary disease | |
Dosbarthiad ac adnoddau allanol | |
Ysgyfant sy'n dangos emffysema canol-labedynnol sy'n briodol i ysmygu. Gwelir nifer o dyllau llawn cramennau o garbon du. | |
ICD-10 | J40.–J44., J47. |
---|---|
ICD-9 | 490–492, 494–496 |
OMIM | 606963 |
DiseasesDB | 2672 |
MedlinePlus | 000091 |
eMedicine | med/373 emerg/99 |
MeSH | C08.381.495.389 |
Clefyd rhwystrol yr ysgyfaint a nodir gan ddiffyg parhaol o lif aer i'r ysgyfaint yw clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD).[1] Mae'n tueddu i waethygu dros amser. Y prif symptomau yw diffyg anadl, peswch, a chrachboer (spwtwm).[2] Yr afiechyd hwn sydd gan y mwyafrif o bobl gyda broncitis cronig.[3]
Ysmygu tybaco yw achos mwyaf gyffredin COPD, ac mae nifer o ffactorau eraill megis llygredd aer a geneteg yn chwarae rhan fach.[4] Yn y byd datblygol, un o ffynonellau cyffredin llygredd aer yw tanau ar gyfer coginio a gwres ond heb ddigon o awyru. Os oes gormodedd o'r achosion hyn ar raddfa hir-dymor, achosir llid yn yr ysgyfaint gan gulháu'r llwybrau aer bychain a distrywio meinwe'r ysgyfaint, afiechyd a elwir yn emffysema.[5] Gwneir diagnosis ar sail diffyg llif aer yn ôl profion swyddogaeth yr ysgyfaint.[6] Yn wahanol i asthma, nid yw'r diffyg llif aer yn gwella'n sylweddol o ganlyniad i feddyginiaeth.
Gellir atal COPD drwy leihau'r achosion. Mae hyn yn cynnwys ymdrechion i ostwng cyfraddau ysmygu ac i wella safon yr awyr yn y cartref ac yn yr awyr agored. Ymhlith triniaethau ar gyfer COPD mae rhoi'r gorau i ysmygu, brechiadau, adfer yr ysgyfaint, ac yn aml broncoledyddion a steroidau a anadlir. Mae therapi ocsigen hir-dymor neu trawsblaniad ysgyfaint o fudd i rai cleifion.[5] Os oes cyfnod o waethygu difrifol, mae'n bosib bydd angen mwy o feddyginiaeth a thriniaeth yn yr ysbyty.
Mae COPD yn effeithio ar 329 miliwn o bobl, sef bron i 5% o boblogaeth y byd.[7] Yn 2013 achosodd 2.9 miliwn o farwolaethau, cynnydd ar 2.4 miliwn o farwolaethau ym 1990.[8] Disgwylir i'r nifer o farwolaethau gynyddu o ganlyniad i gyfraddau uwch o ysmygu a phoblogaethau sy'n heneiddio mewn nifer o wledydd.[9] Amcangyfrifir i'r clefyd gostio US$2.1 triliwn i economi'r byd yn 2010.[10]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ O'r Saesneg: chronic obstructive pulmonary disease.
- ↑ Vestbo, Jørgen (2013). "Definition and Overview" (PDF). Global Strategy for the Diagnosis, Management, and Prevention of Chronic Obstructive Pulmonary Disease. Global Initiative for Chronic Obstructive Lung Disease. tt. 1–7. Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2013-10-04. Cyrchwyd 2015-07-29.
- ↑ Reilly, John J.; Silverman, Edwin K.; Shapiro, Steven D. (2011). "Chronic Obstructive Pulmonary Disease". In Longo, Dan; Fauci, Anthony; Kasper, Dennis; Hauser, Stephen; Jameson, J.; Loscalzo, Joseph (gol.). Harrison's Principles of Internal Medicine (arg. 18th). McGraw Hill. tt. 2151–9. ISBN 978-0-07-174889-6.
- ↑ Decramer M, Janssens W, Miravitlles M (April 2012). "Chronic obstructive pulmonary disease". Lancet 379 (9823): 1341–51. doi:10.1016/S0140-6736(11)60968-9. PMID 22314182.
- ↑ 5.0 5.1 Rabe KF, Hurd S, Anzueto A, Barnes PJ, Buist SA, Calverley P, Fukuchi Y, Jenkins C, Rodriguez-Roisin R, van Weel C, Zielinski J (September 2007). "Global strategy for the diagnosis, management, and prevention of chronic obstructive pulmonary disease: GOLD executive summary". Am. J. Respir. Crit. Care Med. 176 (6): 532–55. doi:10.1164/rccm.200703-456SO. PMID 17507545. http://ajrccm.atsjournals.org/content/176/6/532.long.
- ↑ Nathell L, Nathell M, Malmberg P, Larsson K (2007). "COPD diagnosis related to different guidelines and spirometry techniques". Respir. Res. 8 (1): 89. doi:10.1186/1465-9921-8-89. PMC 2217523. PMID 18053200. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=2217523.
- ↑ Vos T, Flaxman AD, Naghavi M, Lozano R, Michaud C, Ezzati M, Shibuya K, Salomon JA, Abdalla S, Aboyans V (December 2012). "Years lived with disability (YLDs) for 1160 sequelae of 289 diseases and injuries 1990–2010: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2010". Lancet 380 (9859): 2163–96. doi:10.1016/S0140-6736(12)61729-2. PMID 23245607.
- ↑ GBD 2013 Mortality and Causes of Death, Collaborators (17 December 2014). "Global, regional, and national age-sex specific all-cause and cause-specific mortality for 240 causes of death, 1990–2013: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2013.". Lancet 385: 117–171. doi:10.1016/S0140-6736(14)61682-2. PMC 4340604. PMID 25530442. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=4340604.
- ↑ Mathers CD, Loncar D (November 2006). "Projections of Global Mortality and Burden of Disease from 2002 to 2030". PLoS Med. 3 (11): e442. doi:10.1371/journal.pmed.0030442. PMC 1664601. PMID 17132052. http://dx.plos.org/10.1371/journal.pmed.0030442.
- ↑ Lomborg, Bjørn (2013). Global problems, local solutions : costs and benefits. Cambridge University Press. t. 143. ISBN 978-1-107-03959-9.