Clefyd Lyme

Oddi ar Wicipedia
Clefyd Lyme
Enghraifft o'r canlynolclefyd heintus Edit this on Wikidata
Mathprimary bacterial infectious disease, borreliosis, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolAfiechydon heintiol edit this on wikidata
Dull trosglwyddoIxodes pacificus, ixodes scapularis edit this on wikidata
Rhan oborreliosis Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Clefyd heintus yw clefyd Lyme, a enwir hefyd yn Lyme borreliosis, a gaiff ei achosi gan facteria o'r genws Borrelia a giff ei ledaenu gan drogod. Yr arwydd mwyaf cyffredin o'r haint yw ardal goch ar y croen yn ehangu, a enwir yn erythema migrans, sy'n dechrau ar leoliad cnoiad gan drogen oddeutu wythnos ar ôl iddo ddigwydd. Fel arfer, nid yw'r rash yn cosi nac yn boenus. Nid yw oddeutu 25-50% o bobl sydd wedi'u heintio yn datblygu rash. Gall symptomau cynnar eraill gynnwys y dwymyn, cur pen a theimlo wedi blino. Os na chânt eu trin, gall symptomau gynnwys colli'r gallu i symud un neu ddwy ochr o'r wyneb, poen yn y cymalau, cur pen difrifol a gwddf stiff, neu'r galon yn gorguro, ymhlith eraill. Misoedd neu flynyddoedd yn ddiweddarach, gall episodau o boen yn y cymalau a chwyddo ddigwydd o dro i dro. Ar adegau, mae pobl yn datblygu poenau sydyn neu gosi yn eu coesau a'u breichiau. Er iddynt dderbyn triniaeth briodol, mae oddeutu 10 i 20% i bobl yn datblygu ponau yn y cymalau, problemau â'r cof, ac yn teimlo'n flinedig am o leiaf chwe mis.[1][2]

Caiff y clefyd Lyme ei drosglwyddo i bobl drwy frathiad gan drogen wedi'i heintio o'r genws Ixodes.[3] Fel arfer, rhaid i'r ddrogen fod wedi'i gysylltu am 36 o 48 awr cyn y gall y bacteria ledaenu.[4] Yng Ngogledd America, Borrelia burgdorferiBorrelia mayonii yw'r achos.[5] Yn Ewrop ac Asia, mae'r bacteria Borrelia afzeliiBorrelia garinii hefyd yn achosion o'r clefyd.[6] Ymddengys nad yw'r clefyd yn gallu trosglwyddo rhwng pobl, gan anifeiliaid eraill, neu drwy fwyd. Caiff diagnosis ei seilio ar gyfuniad o symptomau, hanes o gysylltiad â drogod, a phrofion o bosib am wrthgyrff yn y gwaed.[7][8] Mae profion gwaed yn negyddol yn am yng nghamau cyntaf y clefyd. Nid yw profion am drogod unigol yn ddefnyddiol fel arfer.[9]

Er mwyn atal y clefyd, gellir ceisio osgoi brathiadau gan drogod, drwy wisgo trwosus hir a defnyddio DEET i atal pryfaid. Gall defnyddio plaleiddiaid i leihau niferoedd trogod hefyd fod yn effeithiol. Gellir tynnu trogod oddi ar y croen hefyd.[10] Os yw'r drogen a dynnwyd yn llawn gwaed, gellir defnyddio un dos o doxycycline i atal haint rhag datblygu, ond ni chaiff hyn ei argymell yn gyffredinol gan fod datblygu haint yn beth prin. Os yw haint yn datblygu, mae nifer o wrthfiotigau'n effeithiol, gan gynnwys docsycycylin, amoxicillin, a ceffwrocsim. Mae triniaeth arferol yn para dwy i dair wythnos. Mae rhai pobl yn datblygu haint wresog a phoenau yn eu cyhyrau a'u cymalau a all bara am un neu ddau ddiwrnod. Yn y rheiny sy'n datblygu symptomau, nid yw triniaeth gwrthfiotig hirdymor wedi bod yn ddefnyddiol.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Signs and Symptoms of Lyme Disease". cdc.gov. 11 Ionawr 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Ionawr 2013. Cyrchwyd 2 Mawrth 2015.
  2. "Posttreatment Lyme disease syndrome". Infect. Dis. Clin. N. Am. 29 (2): 309–23. 2015. doi:10.1016/j.idc.2015.02.012. PMID 25999226.
  3. Johnson RC (1996). "Borrelia". In Baron S; et al. (gol.). Baron's Medical Microbiology (arg. 4th). Univ of Texas Medical Branch. ISBN 0-9631172-1-1. PMID 21413339. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 7 Chwefror 2009. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  4. "Lyme disease transmission". cdc.gov. 11 Ionawr 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 3 Mawrth 2015. Cyrchwyd 2 Mawrth 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  5. Pritt, BS; Mead, PS; Johnson, DK; Neitzel, DF; Respicio Kingry, LB; Davis, JP; Schiffman, E; Sloan, LM et al. (5 Chwefror 2016). "Identification of a novel pathogenic Borrelia species causing Lyme borreliosis with unusually high spirochaetaemia: a descriptive study.". Lancet Infect. Dis. 16: 556–564. doi:10.1016/S1473-3099(15)00464-8. PMID 26856777.
  6. "Clinical practice. Lyme disease". The New England Journal of Medicine 370 (18): 1724–1731. May 2014. doi:10.1056/NEJMcp1314325. PMC 4487875. PMID 24785207. http://portal.mah.harvard.edu/templatesnew/departments/MTA/Lyme/uploaded_documents/NEJMcp1314325.pdf. Adalwyd 2018-03-22.
  7. "Lyme Disease Diagnosis and Testing". cdc.gov. 10 Ionawr 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Mawrth 2015. Cyrchwyd 2 Mawrth 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  8. "Two-step Laboratory Testing Process". cdc.gov. 15 Tachwedd 2011. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 12 Mawrth 2015. Cyrchwyd 2 Mawrth 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  9. "Testing of Ticks". cdc.gov. 4 Mehefin 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 19 Chwefror 2015. Cyrchwyd 2 Mawrth 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. "Tick Removal". cdc.gov. 23 Mehefin 2014. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 10 Mawrth 2015. Cyrchwyd 2 Mawrth 2015. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)