Clapio Wyau

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Sesiwn clapio wyau yng Ngharreglefn

Traddodiad gwerin yng Nghymru, gan gynnwys Ynys Môn, yw clapio wyau.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Roedd mynd i glapio cyn y Pasg yn arfer poblogaidd gan blant Sir Fôn, flynyddoedd yn ôl. Fel rheol roedd y plant yn cael awr neu ddwy o’r ysgol neu ddiwrnod neu ddau cyn cau’r ysgol er mwyn cael mynd i gasglu wyau ieir o gwmpas ffermydd a thyddynnod yr ardal. Defnyddid darn o bren gyda dau ddarn bach bob ochor er mwyn creu’r ‘clapar’ a phiser bach neu fasgiad gyda gwellt neu laswellt at waelod y fasgiad er mwyn cael casglu’r wyau ac i wneud yn siŵr nad oedd yr wyau yn cael eu difetha ar y ffordd.

Arferai'r plant fynd o amgylch ffermydd yr ardal gan guro drysau ac adrodd rhigwm wrth ysgwyd y clapiwr. Mae Clap, clap, gofyn ŵy, Hogia bach ar y plwy, Plîs ga’i ŵy? yn enghraifft o rigwm maen nhw’n parhau i ddefnyddio hyd heddiw.

Yn ôl yr arferiad byddai’r drws yn cael ei agor a’r person tu mewn i’r tŷ yn gofyn “A phlant bach pwy ’dach chi?” Ar ôl cael ateb, byddai perchennog y tŷ yn rhoi ŵy yr un i’r plant.[1]

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae yna adfywiad wedi bod o ganlyniad i waith Menter Iaith Môn ar yr Ynys. Cynhelir gweithgareddau clapio wyau yn flynyddol ym mhentrefi Llynfaes, Talwrn, Rhosybol a Charreglefn. Wyau siocled yw’r arferiad erbyn hyn, nid wyau ieir.

Menter Iaith Môn[golygu | golygu cod y dudalen]

Yn ôl Helen Thomas, Prif Swyddog Menter Iaith Môn: "Yn amlwg fel rhan o’n gwaith ni fel menter iaith da ni yma er mwyn cynnal a hyrwyddo ac annog y defnydd o’r Gymraeg yn arbennig felly'r defnydd naturiol, cymdeithasol; felly mae hwn yn un elfen bwysig lle da ni'n gallu clymu'r ochr deuluoedd lle da ni yn gallu rhoi cefnogaeth i deuluoedd fod yn defnyddio’r Gymraeg ar yr aelwyd, yn darparu gwasanaeth a chyfleoedd cymdeithasol lle defnyddir y Gymraeg er wmyn gallu clymu wedyn y gymuned ehangach i mewn yn hwnnw hefyd." [2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]