Cian Ciarán
| Cian Ciarán | |
|---|---|
Cian Ciarán yn perfformio gyda Super Furry Animals yn y Summer Sonic Festival, Tokyo, Japan ar 10 Awst 2008. | |
| Y Cefndir | |
| Ganwyd | 16 Mehefin 1976 Bangor |
| Gwaith | Cerddor, cyfansoddwr, cynhyrchydd |
| Offeryn/nau | Allweddellau gitâr llais cefndir drymiau |
| Perff'au eraill | Super Furry Animals Acid Casuals Wwzz Aros Mae Paps Kirkland Wilding Zefur Wolves |
Cerddor o Gymro ydy Cian Ciarán (ganed 16 Mehefin 1976). Mae'n aelod o'r band Super Furry Animals (ynghyd a'i frawd Dafydd Ieuan) ac Acid Casuals. Cyn hynny roedd yn aelod o'r grwpiau electronig Wwzz a Aros Mae. Cian sy'n gyfrifol am chwarae'r allweddellau a rhaglennu seiniau arbennig ar y sampler. Mae hefyd yn canu a chanodd yng nghytgan Motherfokker, wrth gydweithio gyda Goldie Lookin' Chain.
Mae e wedi rhyddhau dau albwm fel artist solo ac un fel aelod o'r band Zefur Wolves. Yn ogystal â'r albymau hyn mae e'n rhyddhau cerddoriaeth gan amrywiaeth o artistiaid ar ei label recordiau Strangetown Records.[1][2]
Y meddyg a'r ymgyrchydd iaith Carl Iwan Clowes oedd ei dad.
Yn 2018 etholwyd ef yn is-gadeirydd y mudiad dros annibyniaeth, Yes Cymru.
Mae hefyd yn ymgyrchydd dros annibyniaeth i Gymru[3] a gwrth niwclear[4].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ https://www.goldenplec.com/featured/cian-ciaran-interview/
- ↑ http://www.discogs.com/label/479660-Strangetown-Records
- ↑ "In Conversation with Welsh Singer and Activist Cian Ciarán". Mared Gruffydd (yn Saesneg). 2019-03-13. Cyrchwyd 2026-06-16.
- ↑ "Ymgyrchwyr wedi siomi â phenderfyniad i ollwng 'mwd niwclear' ym Môr Hafren". Golwg360. 2021-08-03. Cyrchwyd 2026-06-16.