Chwiplys Woods
Chwiplys Woods Mastigophora woodsii | |
---|---|
Statws cadwraeth | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Plantae |
Rhaniad: | Marchantiophyta |
Dosbarth: | |
Urdd: | Jungermanniales |
Teulu: | Mastigophoraceae |
Genws: | Mastigophora |
Rhywogaeth: | M. woodsii |
Enw deuenwol | |
Mastigophora woodsii |
Math o blanhigyn, di-flodau, ac un o lysiau'r afu yw Chwiplys Woods (enw gwyddonol: Mastigophora woodsii; enw Saesneg: Woods’ whipwort). O ran tacson, mae'n perthyn i urdd y Jungermanniales, o fewn y dosbarth Jungermanniopsida.
Nid yw’r rhywogaeth hon i’w chanfod yng Nghymru na Lloegr, ond fe'i ceir ar arfordiroedd gorlewinol Iwerddon a'r Alban.
Llysiau'r afu[golygu | golygu cod]
- Prif: Llysiau'r afu
Planhigion anflodeuol bach o'r rhaniad Marchantiophyta yw llysiau'r afu. Defnyddir y term "lysiau'r afu" am un planhigyn, neu lawer. Erbyn 2019 roedd tua 6,000 o rywogaethau wedi cael eu hadnabod gan naturiaethwyr.[1] Fe'u ceir ledled y byd, mewn lleoedd llaith gan amlaf. Mae gan lawer ohonynt goesyn a dail ac maent yn debyg i fwsoglau o ran golwg.
Mae rhai rhywogaethau i'w cael yng Nghymru; gweler y categori yma.
Rhywogaeth gadarn, ganghennog sy'n ffurfio matiau rhydd gyda rhywogaethau deiliog eraill o lysiau'r afu, sy'n aml yn goch neu felynfrown, ac weithiau, ond yn anaml, yn wyrdd. Mae'r prif goesyn wedi'i orchuddio â dail deulabed sy'n gorgyffwrdd, ac sy'n 1–2 mm o hyd.
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ Raven, Peter H.; Ray F. Evert & Susan E. Eichhorn (1999) Biology of Plants, W. H. Freeman, Efrog Newydd.