Chwarel Rosebush
Chwarel lechi yng ngogledd Sir Benfro oedd Chwarel Rhos-y-bwlch (Saesneg: Rosebush Quarry). Saif ychydig i'r gogledd o bentref Rhos-y-bwlch, ar lechweddau isaf y Preselau, i'r de-ddwyrain o gopa Foel Cwmcerwyn.
Agorwyd y chwarel yn 1842. Yn 1876, roedd y chwarel yn eiddo i Edward Cropper, a thalodd ef am reilffordd rhwng Maenclochog a Clunderwen i gludo cynnyrch y chwarel, yn ogystal ag adeiladu 26 o dai i'r gweithwyr. Caeodd y chwarel tua diwedd y 19g.
Dolen allanol[golygu | golygu cod]
- Bro Preseli 1 : Chwarel Rhos-y-bwlch Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback.
- (Saesneg) Bellstone and Rosebush Slate Quarries