Foel Cwmcerwyn

Oddi ar Wicipedia
Foel Cwmcerwyn
Mathcopa, bryn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr536 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau51.9457°N 4.7746°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN0941031161 Edit this on Wikidata
Manylion
Amlygrwydd344 metr Edit this on Wikidata
Rhiant gopaPumlumon Fawr Edit this on Wikidata
Cadwyn fynyddMynydd Preseli Edit this on Wikidata
Map

Copa uchaf mynyddoedd y Preselau yn Sir Benfro yw Foel Cwmcerwyn neu Foel Cwm Cerwyn. Saif ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, i'r gogledd-ddwyrain o bentref Rhos-y-bwlch ac i'r de o bentref Brynberian.

Ceir nifer o garneddi ac olion cynhanesyddol eraill ar y mynydd. Ar y llethrau gorllewinol mae Coedwig Pantmaenog. Ceir cyferiad at yr ardal yn chwedl Culhwch ac Olwen, lle mae'r Twrch Trwyth yn glanio ym Mhorth Clais ar ôl anrheithio Iwerddon, ac yna'n mynd i Preselau, gan ladd pedwar o wŷr Arthur yng Nghwm Cerwyn.

Dosberthir copaon Cymru, a gweddill gwledydd Prydain, yn rhestri arbennig yn ôl uchder ac yn ôl amlygrwydd y copa; mae'r copa hwn yn cael ei alw'n Marilyn a Dewey . Mae sawl cymdeithas yn mesur, gwiro a chasglu'r rhestri hyn a dônt ynghyd ar wefan “Database of British and Irish hills”.[1] Uchder y copa o lefel y môr ydy 536 metr (1759 tr). Cafodd yr uchder ei fesur a'i gadarnhau ar 28 Hydref 2001.

Gweler hefyd[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]