Chwarel Ratgoed

Oddi ar Wicipedia
Chwarel Ratgoed
Mathchwarel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.6897°N 3.8004°W Edit this on Wikidata
Map

Chwarel lechi gerllaw Aberllefenni yn ne Gwynedd oedd Chwarel (y) Ratgoed[1][2] neu Chwarel (y) Ralltgoed[3][4] (ffurfiau amgen: yr Atgoed[5]; yr Alltgoed[6]). Hi yw'r fwyaf gogleddol o'r chwareli a wasanaethir gan Reilffordd Corris.

Enw[golygu | golygu cod]

'Yr Atgoed' yw'r enw gwreiddiol ar yr ardal. Ystyr 'atgoed' yw coed sydd wedi aildyfu ar ôl cael eu torri. Cymharol gyfoes yw'r enwau sy'n cynnwys yr elfen 'allt'.[7][8]

Hanes[golygu | golygu cod]

Dechreuodd gweithio llechi yma cyn 1840, pan grybwyllir y chwarel yn ewyllys Horatio Nelson Hughes. Caeodd y chwarel am gyfnod tua diwedd y 1840au, cyn ail-agor yn 1851. Yn y 1850au, roedd yn cael ei rhedeg gan John Rowlands fel rhan o Alltgoed Consols, partneriaeth oedd hefyd yn berchen ar Chwarel Braich Goch. Tua dechrau'r 1860au, diswyddwyd Rowlands a dychwelodd y chwarel i feddiant Horatio Nelson Hughes.

Agorwyd Tramffordd Ratgoed yn 1859 i gysylltu â Rheilffordd Corris. Roedd wedi cau erbyn 1900; ail-agorodd yn 1901 ond roedd wedi cau eto erbyn 1903. Ail-agorodd eto yn 1907. Yn 1924, prynwyd y chwarel gan Harber & Thomas Ltd., perchenogion Chwarel Llwyngwern. Caeodd yn derfynol yn 1946.

Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]

  • Alun John Richards, Slate Quarrying at Corris (Gwasg Carreg Gwalch, 1994)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. "Gogledd Cymru". Y Drych. 12 Chwefror 1891. https://papuraunewydd.llyfrgell.cymru/view/3540333/3540341/101/ratgoed.
  2. "Corris". Y Negesydd. 21 Medi 1900.
  3. "Aberllefenni". Y Negesydd. 2 Gorffennaf 1903.
  4. "Corris". Y Negesydd. 8 Mawrth 1906.
  5. "Corris a'r cyffiniau". Y Genedl Gymreig. 25 Gorffennaf 1883.
  6. "Corris". Y Negesydd. 11 Hydref 1906.
  7. "Un enw mewn pum munud: Ratgoed". Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2 Chwefror 2022.
  8. Richards, Melville (1964). "Nodiadau amrywiol: Betws Ithel; Cae Mab Ynyr; Cefn y March Brethyn; Tanreg; atgoed, edwydd". Bwletin y Bwrdd Gwybodau Celtaidd 20(4): 391.