Chwarel Pen y Bryn
Daearyddiaeth | |
---|---|
Sir | Gwynedd |
Gwlad | ![]() |
Chwarel lechi yn Nyffryn Nantlle, Gwynedd, i’r gogledd-orllewin o Lyn Nantlle Uchaf oedd Chwarel Pen y Bryn.
Agorwyd y chwarel tua 1770 ac erbyn 1882 cynhyrchwyd 5,083 tunnell o lechi gan 240 o weithwyr. Roedd pedwar twll yma gyd, ac ar un adeg defnyddid dwy olwyn ddŵr ar gyfer pwmpio. Roedd inclên yn ei chysylltu a Rheilffordd Nantlle; ar un adeg Pen y Bryn oedd pen draw’r rheilffordd yma, ond yn ddiweddarach ymestynwyd y rheilffordd i Chwarel Penyrorsedd. O 1836 ymlaen roedd yn eiddo Chwarel Dorothea. Ni fu llawer o weithio yma ar ôl diwedd y 1890au, ond dim ond yn y 1940au y caewyd y chwarel yn derfynol.
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod]
- Alun John Richards, A Gazetteer of the Welsh Slate Industry (Gwasg Carreg Gwalch, 1991)