Chwarel yr Oakeley
Math | chwarel |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.0032°N 3.9483°W |
Chwarel lechi ym Mlaenau Ffestiniog, Gwynedd, Cymru, yw Chwarel yr Oakeley.
Hanes
[golygu | golygu cod]Dechreuodd Chwarel yr Oakeley yn 1818 pan brydlesodd Samuel Holland chwarel fychan ar fferm Rhiwbryfdir. Roedd y fenter hon yn llwyddiannus a gwerthwyd hi yn 1825 i'r Welsh Slate Company. Agorodd Holland chwarel newydd yn Gesail, uwchben Rhiwbryfdir. Yn 1839 daeth y chwarel hon yn un o'r cyntaf i ddefnyddio Rheilffordd Ffestiniog i yrru llechi i'r cei ym Mhorthmadog. Erbyn 1840, roedd gweithio tan-ddaear wedi dechrau ac agorwyd melin dorri a bwerwyd gan stêm tua 1860. Erbyn canol yr 1870au roedd dros 14,000 tunnell o lechi gorffenedig yn cael eu cynhyrchu yn flynyddol.
Yn ystod yr un cyfnod, prydlesodd Nathaniel Mathew dir rhwng Gesail a Rhiwbryfdir ac agorodd Gloddfa Ganol, roedd y chwarel hon yn arloesol yn y defnydd o beiriannau wrth drin llechi ac yn ddefnyddiwr cynnar o felinau a bwerwyd gan stêm ac inclein. Erbyn canol yr 1870au, roedd Gloddfa Ganol yn cynhyrchu mwy na 10,000 tunell o lechi gorffenedig yn cael eu cynhyrchu'n flynyddol.
Roedd trydydd chwarel o bwys gerllaw, sef Chwarel yr Arglwydd Palmerston, a leolwyd i'r de o Gloddfa Ganol. Roedd ei weithiau tan-ddaearol ymestynedig yn cysylltu i Reilffordd Ffestiniog erbyn 1838 ac agorodd ei felin cyntaf a bwerwyd gan stêm tua 1840. Erbyn yr 1870au roedd y cynhyrchiad blynyddol dros 50,000 tunell o lechi gorffenedig.
Terfynodd y prydlesau ar gyfer Gesail a Gloddfa Ganol yn 1878 a cyfunodd y perchennog tir, W.E. Oakeley, y ddau chwarel yn un.
Parhaodd Chwarel yr Arglwydd Palmerston i fod yn annibynnol ond bu hi'n dilyn dulliau ymosodol a pheryg o chwarelu. Achosodd nifer o gwympiadau tan-ddaearol ddisgyniadau cerrig sylweddol yn 1882 a 1883 a fygythiodd i ddi-sefydlogi dwy chwarel Oakeley uwchben. Erlynodd Oakeley perchenogion Chwarel yr Arglwydd Palmerston a cymerodd drosodd y berchenogaeth, gan gyfuno'r tri chwarel yn un i greu beth adnabyddwyd fel Chwarel yr Oakeley.
Tuag at ddiwedd y 19g, cymerodd Oakeley drosodd chwareli cyfagos Nidd-y-Gigfran a Chwarel Cwm Orthin. Yn eu uchafbwynt, roedd y chwareli cyfunedig yn cynhyrchu 60,000 tunell o lechi yn flynyddol, y trydydd mwyaf ym Mhrydain.
Gwnaethpwyd defnydd estynedig o beiriannau stêm sefydlog i redeg y melinoedd torri, siediau trin ac incleiniau yn y chwarel, er cyflwynwyd pŵer trydan-hydro yn 1906.
Cariodd Oakeley ymlaen i gynhyrchu tunelli sylweddol o lechi drwy gydol yr Ail Ryfel Byd ond dioddefodd ddigyniad sylweddol yn yr 1960au ynghyd â gweddill diwydiant llechi Prydain. Caeodd y chwarel yn 1970.
Ail-agorodd y chwarel fel chwarel gweithio ac atyniad ymwelwyr yng nghanol yr 1970au dan yr enw Gloddfa Ganol. Gwerthwyd y menter yma ymlaen i McAlpines yn 1997 a caewyd ochr twristiaeth y busnes. Mae'r chwarel yn dal i weithio hyd heddiw (2007).[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Alun John Richards, The Slate Regions of North and Mid Wales (Gwasg Carreg Gwalch, 1999)