Chwarel Aberllefenni

Oddi ar Wicipedia
Chwarel Aberllefenni
Mathchwarel Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 14 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.676°N 3.823°W Edit this on Wikidata
Map

Chwarel lechi ger Aberllefenni yng Ngwynedd yw Chwarel Aberllefenni. Cyn iddi gau yn 2003 roedd wedi bod ar agor yn ddidor am gyfnod hwy nag unrhyw chwarel lechi arall yn y byd.

Defnyddir yr enw “Chwarel Aberllefenni” am dair chwarel ar wahan, Foel Grochan, Hen Chwarel a Ceunant Ddu, sydd ill tair wedi eu gweithio fel uned trwy gydol y cyfnod yr oedd y chwarel ar agor. Saif Foel Grochan ar ochr ddwyreiniol y dyffryn a Ceunant Ddu a Hen Gloddfa ar yr ochr orllewinol.

Hanes[golygu | golygu cod]

Efallai bod Chwarel Aberllefenni wedi ei gweithio cyn gynhared a’r 14g. Tua 1500 defnyddiwyd llechi o’r chwarel yma i doi Plas Aberllefenni. Roedd y chwarel yn eiddo i deulu Lloyd yn y 17g, a daeth i feddiant teulu Campbell yn 1725. Yn 1806 daeth John Davies yn berchennog, ac etifeddwyd y chwarel gan ei aer Pryce Jones yn 1824. Yn 1859 gwerthwyd y chwarel i’r Cyrnol Robert Davis Jones.

Erbyn 1879 roedd y chwarel yn cyflogi 169 o weithwyr, ac yn cynhyrchu bron 4700 tunnell o lechi. Cyhhaeddodd y nifer o weithwyr 190 yn 1890, ond erbyn 1908 roedd wedi gostwng dan 100.

Yn 1935 prynwyd y chwarel gan Syr Henry Haydn Jones, perchennog Chwarel Bryn Eglwys ger Abergynolwyn. Erbyn y 1950au dim ond tua 40 o weithwyr oedd ar ôl, i gyd yn chwarel Foel Grochan. Prynodd y brodyr Gwilym a Dewi Lloyd y chwarel yn 1956 dan yr enw Wincilate Ltd. Trwy fecaneiddio, gallwyd cario ymlaen hyd ddiwedd y ganrif, ond daeth diwedd ar gynhyrchu llechi yn 2002. Aberllefenni oedd y chwarel lechi olaf i’r de o Flaenau Ffestiniog. Mae’r felin lechi yn parhau ar agor, yn prosesu llechi o Tsieina, Blaenau Ffestiniog a Chwarel y Penrhyn.

Chwarel Aberllefenni o Foel Grochan, diwedd y 1970au
Sied peiriannau'r chwarel, tua 1885

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]