Chwarel Bryn Eglwys

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Chwarel Bryn Eglwys
Bryn Eglwys building - 2008-03-18.jpg
Math Chwarel Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 52.6333°N 3.9314°W Edit this on Wikidata

Lleolir Chwarel Bryn Eglwys yn Nant Gwernol ger Abergynolwyn, de Gwynedd. Mae hon yn un o chwareli mwyaf adnabyddus Meirionnydd. Yn 1877, cynhyrchwyd tua 8000 tunnell o lechi yno a cludwyd y llechi o'r chwarel ar system o dramffyrdd i orsaf Abergynolwyn lle ymunodd y dramffordd â Rheilffordd Talyllyn.[1]

Pen Alltwyllt: yr hen inclein sy'n dringo i'r chwarel o orsaf Nant Gwernol

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Bu gweithio ar raddfa bychan yn y chwarel erbyn dechrau'r 1840au. Ceir cofnod am ddau ŵr o Flaenau Ffestiniog yn cloddio yng ngwaelod mynydd Bryneglwys tua 1834 ac erbyn 1844 roedd dau ddyn arall o'r dref honno, sef Wiliam Griffith "yr India Rock" a Hugh Roberts, "yr Hen Idris". Erbyn 1847 roedd peiriannau yn y chwarel a rhai adeiladau.[2] Yn 1864 cymerodd William McConnell brydles ar y chwarel a ffurfio'r Aberdovey Slate Company Limited. Bwriadai gynyddu'r gwaith ym Mryn Eglwys. Ond llesteirywd y cynllun am fod rhaid cludo'r llechi ar gefn ceffylau pwn i ddociau Aberdyfi. I osgoi hynny, adeiladodd McConnell Reilffordd Talyllyn, sy'n rhedeg o'r chwarel i Dywyn, lle gellid trosglwyddo'r llechi wedyn i'r rheilffordd newydd (Rheilffordd Arfordir Cymru heddiw).

Rhedai'r rheilffordd i Nant Gwernol, tua 430 troedfedd islaw prif lefel y chwarel. Oddi yno defnyddid cyfres o incleins i ddod â'r llechi i lawr o'r graig.

Ni fu'r chwarel na'r rheilffordd yn fusnes llwyddiannus iawn. Erbyn 1879 roedd y cwmni wedi rhedeg allan o gyfalaf a chafodd y chwarel a'r rheilffordd ei ocisynu ar 9 Hydref y flwyddyn honno. Wedi darfod y cwmni, prynodd William McConnell y chwarel a'r rheilffordd yn eiddo iddo'i hun, a phan ddaeth gwelliant yn y farchnad llechi ehangwyd y gwaith. Erbyn 1901 roedd 174 o weithwyr yn y chwarel.[3]

Bu farw McConnell yn 1902 a daeth y fenter yn eiddo i'w fab W. H. McConnell. Ond oherwydd anawsterau mawr bu cau'r chwarel yn 1909.

Yn 1911 prynodd yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol Henry Haydn Jones y chwarel, ynghyd â Rheilffordd Talyllyn Railway a phentref Abergynolwyn ei hun, i ffurfio'r Abergynolwyn Slate & Slab Co. Ltd. Cafodd brydleisiau newydd gan y tirfeddianwyr ac ailgydiwyd yn y gwaith. Erbyn 1931 roedd yna 61 o weithwyr yn y chwarel..[4]

Parhaodd y chwarel i gynhyrchu llechi hyd at 26 Rhagfyr 1946 pan gafwyd cwymp difrifol yn y graig a bu rhaid cau'r chwarel am resymau diogelwch.

Ffynonellau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Archaeoleg yn y Fforest: Mwyngloddiau a chwareli Gogledd Cymru
  2. Elwyn Roberts, Wrth Odre Cadair Idris (Cyhoeddiadau Mei, 1980). Pennod 6: 'Chwarel Bryneglwys', tud. 95 et seq.
  3. Atlas Meirionnydd (Y Bala, ail arg. 1975).
  4. Atlas Meirionnydd.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]

Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: