Nant Gwernol
![]() | |
Math | gorsaf reilffordd ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.6419°N 3.9508°W ![]() |
![]() | |
Gorsaf reilffordd yw Nant Gwernol, ger Abergynolwyn, sydd wedi bod yn ben taith Rheilffordd Talyllyn ers i'r linell gael ei ymestyn yn 1976. Does dim mynedfa yno heblaw am y rheilffordd gan lleolir hi mewn ceunant serth ond mae hefyd modd mynd am dro yng Nghoed Nant Gwernol, mae nifer o lwybrau pwrpasol wedi eu hadeiladu yno.[1]


Mae Nant Gwernol yn gartref i un o chwareli mwyaf adnabyddus Dyffryn Dyfi, sef Chwarel Bryn Eglwys. Yn 1877, cynhyrchwyd tua 8000 tunnell o lechi yno a cludwyd y llechi o'r chwarel ar system o dramffyrdd i orsaf Abergynolwyn lle ymunodd y dramffordd â Rheilffordd Talyllyn.[2]
Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]
- ↑ "wt-woods.org.uk/coednantgwernol". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-14. Cyrchwyd 2007-10-23.
- ↑ "Archaeoleg yn y Fforest: Mwyngloddiau a chwareli Gogledd Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-12-02. Cyrchwyd 2007-10-23.