Church Stretton
Math | tref, plwyf sifil, tref farchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Amwythig |
Poblogaeth | 4,671, 4,593 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Yn ffinio gyda | Cwm Head |
Cyfesurynnau | 52.539°N 2.808°W |
Cod SYG | E04011244, E04008492 |
Cod OS | SO453937 |
Cod post | SY6 |
Tref fechan a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig yw Church Stretton.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Gorwedd ar yr A49 tua 13 milltir i'r de o dref Amwythig.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 4,671.[2]
Yn oes Victoria, gelwid y dref yn Little Switzerland oherwydd y mynyddoedd o'i chwmpas, lle ceir creigiau hynafol iawn.[3]
Caer Caradog
[golygu | golygu cod]- Prif: Caer Caradoc
Bryn ger Church Stretton ac All Stretton yn Swydd Amwythig yw "Caer Caradoc"; o'i gopa ceir golygfeydd gwerth chweil. I'r gogledd gwelir Wrekin, i'r dwyrain Cefn Gweunllwg (Saesneg: Wenlock Edge), i'r gorllewin ceir y Long Mynd, ac ar ddiwrnod clir gellir gweld Bryniau Clwyd yn y gogledd a fflatiau tal Birmingham i'r dwyrain a Bannau Brycheiniog i'r de. Ceir bryn cyfagos o'r un enw 1 km i'r gorllewin, a cheir un arall yng Ngherrigydrudion.
Dyma fryncyn G/WB-006 yn Summits on the Air a chyfeirnod grid yr OS yw SO477953. Saif 1,506 tr (459 m) uwch lefel y môr.
Ceir bryngaer o Oes yr Haearn neu efallai ddiwedd Oes yr Efydd ac o'r cyfnod Celtaidd hwn y daw'r enw. Credir fod brwydr bwysig wedi'i ymladd yma: brwydr olaf y "Brenin Mawr Caradog" yn erbyn y Rhufeiniaid. Yn ôl chwedl leol, cuddiodd Caradog mewn ogof ger y copa, ac mai'r fryngaer hon oedd ei brif gartref ac amddiffynfa.
Adeiladau a chofadeiladau
[golygu | golygu cod]- Cofeb rhyfel
- Eglwys Sant Lawrens
- Gorsaf reilffordd
- Gwesty Longmynd
- Marchnad
Enwogion
[golygu | golygu cod]- Syr John Thynne (c.1515-1580)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 27 Medi 2020
- ↑ City Population; adalwyd 12 Ebrill 2021
- ↑ "Church Stretton". Shropshire Tourism. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2008-08-27. Cyrchwyd 4 Gorffennaf 2008.
Amwythig · Bridgnorth · Broseley · Cleobury Mortimer · Clun · Craven Arms · Croesoswallt · Church Stretton · Dawley · Yr Eglwys Wen · Ellesmere · Llwydlo · Madeley · Market Drayton · Much Wenlock · Newport · Oakengates · Shifnal · Telford · Trefesgob · Wellington · Wem