Charlotte Anita Whitney
Charlotte Anita Whitney | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd |
7 Gorffennaf 1867 ![]() San Francisco ![]() |
Bu farw |
4 Chwefror 1955 ![]() San Francisco ![]() |
Dinasyddiaeth |
![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth |
gwleidydd, swffragét ![]() |
Plaid Wleidyddol |
Plaid Sosialaidd America, Plaid Lafur Gomiwnyddol America, Plaid Gomiwnyddol UDA ![]() |
Tad |
George Edwin Whitney ![]() |
Ffeminist a swffragét Americanaidd oedd Charlotte Anita Whitney (7 Gorffennaf 1867 – 4 Chwefror 1955) a oedd yn ymgyrchydd hawliau menywod, yn ymgyrchydd gwleidyddol, ac yn Blaid Lafur Gomiwnyddol cynnar America ac yn drefnydd UDA y Blaid Gomiwnyddol yng Nghaliffornia.
Mae'n cael ei chofio orau fel y diffynnydd mewn achos llys yn 1920, sef Whitney v. California, a oedd yn cynnwys datganiad gan Oruchaf Lys yr Unol Daleithiau a oedd yn cyd-fynd â'r farn gan yr Ustus Louis Brandeis, mai dim ond mewn achlysur o "berygl clir a chyfredol" y dylid atal yr hawl i lefaru'n rhydd (free speech). Yn ddiweddarach, byddai'r safon hon yn cael ei defnyddio yn erbyn y Comiwnyddion yn ystod y 1950au.
Magwraeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Fe'i ganed yn San Francisco ar 7 Gorffennaf 1867, yn ferch i deulu blaenllaw a oedd yn cynnwys Ustus o Oruchaf Lys America, Stephen Johnson Field, a'r aml-filiwnydd Cyrus W. Field. Roedd ei thad yn gyfreithiwr.[1]
Mynychodd Whitney ysgol breifat ac ysgol cyhoeddus yn Oakland, Califfornia, ar draws y bae o San Francisco.[1] Pan ddaeth ei haddysg yn Oakland i ben, aeth i ysgol arferol yn San Jose, Califfornia, cyn gadael am yr East Coast i fynychu Coleg Wellesley, yn Wellesley, Massachusetts, lle graddiodd ohoni ym 1889. Wedi graddio, gweithiodd am ychydig fel athrawes.
Bu farw yn San Francisco ar 4 Chwefror yn 87 oed.
Ymgyrchu[golygu | golygu cod y dudalen]
Cafodd ymweliad gyda rhannau tlawd Dinas Efrog Newydd gryn argraff arni a dechreuodd ar waith cymdeithasol.[2] Yn 1901 fe'i cyflogwyd fel Ysgrifennydd Gweithredol United Charities of Oakland, California lle bu hyd at 1908.[1]
Trodd yr ymgyrchu at etholfraint, neu'r hawl i bleidlais, i ferched. Rhwng 1911 ac 1913 bu'n drefnydd y National College Equal Suffrage League ac yna'n is-Lywydd y National American Woman Suffrage Association.
Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Sosialaidd America, Plaid Lafur Gomiwnyddol America a Phlaid Gomiwnyddol UDA.
Aelodaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
Bu'n aelod o Gymdeithas America dros yr Hawl i Ferched Bleidleisio am rai blynyddoedd.
Anrhydeddau[golygu | golygu cod y dudalen]