Cerrig Pryfaid
Math | cylch cerrig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.223695°N 3.911916°W |
Statws treftadaeth | heneb gofrestredig, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | CN130 |
Heneb gynhanesyddol a chylch cerrig, o Oes yr Efydd yn ôl pob tebyg, ydy Cerrig Pryfaid, sy'n sefyll ger Bwlch y Ddeufaen i'r gorllewin o bentref Llanbedr-y-cennin, cymuned Caerhun, Sir Conwy; cyfeirnod OS: SH724713. Rhif SAM CADW ar y safle yma ydy: CN130.[1]
Disgrifiad
[golygu | golygu cod]Nid yw cerrig y cylch anghyflawn hwn yn rhai mawr ac felly nid wy'r cylch ei hun yn amlwg iawn nes bod rhywun yn agos iddo. Ceir deg carreg yno, gyda bwlch o 3 metr o leiaf rhyngddynt, a dydy'r un ohonynt yn fwy na 0.5 metr o uchder. Ceir carnedd Barclodiad y Gawres, sef siambr gladdu o Oes yr Efydd, gerllaw.[2]
Yn ôl pob tebyg, defnyddiwyd yr heneb hon gan y Celtiaid i ddefodau crefyddol ac i gladdu neu gofio am y meirw. Mae ffordd Rufeinig Caer-Segontiwm yn mynd heibio i'r safle ac roedd Bwlch-y-ddeufaen yn dramwyfa bwysig cyn hynny hefyd. Ymddengys fod yr enw yn hynafol. Ystyr 'Pryfaid' yma yw "anifeiliaid" (Cymraeg Canol: pryf "anifail"; hefyd "sarff", "draig)[3] yn hytrach na thrychfilod, yn ôl pob tebyg. "Pry llwyd" yw gair arall am gadno.
Henebion eraill
[golygu | golygu cod]Ceir sawl heneb gynhanesyddol arall gerllaw, gan gynnwys Meini Hirion Penmaenmawr, Maen y Bardd a'r ddau faen hir ar Fwlch-y-ddeufaen ei hun.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Data Cymru Gyfan, CADW
- ↑ Christopher Houlder, Wales: an archaeological guide (Faber, 1978), tud. 61.
- ↑ Geiriadur Prifysgol Cymru, Cyf. III, tud. 2919.