Cei'r Fôr-Forwyn
![]() | |
Daearyddiaeth | |
---|---|
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4636°N 3.165°W ![]() |
![]() | |
Canolfan ac ardal hamdden a siopa ym Mae Caerdydd yw Cei'r Fôr-forwyn (Saesneg: Mermaid Quay). Agorwyd y datblygiad 14,000 metr sgwâr (2.5 erw) yn 1999, ac mae'n cynnwys bwytai, bariau, siopau a chaffis.
Hanes
[golygu | golygu cod]Roedd Cei'r For-forwyn yn ganolog i gynllun adfywio Bae Caerdydd gan Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd. Roedd y cynllun yn rhan o rhaglen ddatblygu trefol y Llywodraeth Brydeinig i adfywio ardaloedd difreintiedig o fewn dinasoedd. Sefydlwyd Corfforaeth Ddatblygu Bae Caerdydd yn mis Ebrill 1987 i adfywio 1,100 hectar (2,700 erw) o ardal y dociau yng Nghaerdydd a Phenarth - a oedd unwaith yn un o borthladdoedd allforio mwyaf y Byd - i greu'r datblygiad glan y dwr mwyaf yn Ewrop.
Cafodd Amgueddfa Ddiwydiannol a Môr Cymru, a gynhaliwyd arddangosfeydd sy'n dangos hanes diwydiannol a morwrol Cymru,[1]. Achubwyd y casgliad, ond mae'r mwyafrif yn parhau i gael ei storio yn Nant Garw[2] gydag ychydig iawn o eitemau cyfyngedig i'w harddangos yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe.
Cyn cwblhau Morglawdd Bae Caerdydd ym 1999, roedd gan Fae Caerdydd lanw yn dod i mewn ag allan, gydag ehangder helaeth o fflatiau llaid a oedd i'w gweld pan roedd y llanw'n isel. Pan adeiladwyd y morglawdd, un o'r prosiectau peirianneg mwyaf yn Ewrop, creuwyd llyn dŵr croyw o 500 erw gyda 8 milltir (13 km) o ardal ar lan y dŵr.
Dyluniwyd Cei'r Fôr-forwyn gan benseiri Benoy ac fe'i agorwyd ym mis Awst 1999.[3] Ers hynny bu adfywiad helaeth o'r ardal, gan gynnwys adeiladu Rhodfa Lloyd George - ffordd gyswllt newydd rhwng canol y ddinas a'r Bae - adeiladau eiconig niferus a datblygiadau masnachol a phreswyl gan gynnwys Cei'r Fôr-forwyn. Mae Bae Caerdydd bellach yn un o brif cyrchfannau Cymru sy'n denu ystod o ymwelwyr o Gymru, Ewrop a gweddill y byd.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/a7/Mermaid_Quay_in_2000.jpg/650px-Mermaid_Quay_in_2000.jpg)
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/4d/Mermaid_Quay_Cardiff_Bay.jpg/650px-Mermaid_Quay_Cardiff_Bay.jpg)
Y Cyfryngau
[golygu | golygu cod]Mae Bae Caerdydd a Chei'r Fôr-Forwyn wedi bod yn gefnlen i sawl bennod a chyfres deledu, fel cyfresi drama'r BBC Doctor Who aTorchwood.
Teithio
[golygu | golygu cod]Trên
[golygu | golygu cod]Mae gwasanaethau tren yn rhedeg bob 12 munud rhwng Bae Caerdydd a gorsaf Caerdydd Stryd y Frenhines.
Cwch
[golygu | golygu cod]Mae Aquabus a Cardiff CATS yn darparu gwasanaethau Bws a Thacsi Dwr. Mae'r Aquabus yn rhedeg gwasanaeth rhwng y Bae a chanol y ddinas tra bod Cardiff CATS yn rhedeg gwasanaeth i Benarth.
Bws
[golygu | golygu cod]Mae gwasanaethau amrywiol Bws Caerdydd yn gwasanaethu Mermaid Quay, gan gynnwys gwasanaeth BayCar o ganol y ddinas, sy'n gweithredu bob 10 munud o ddydd Llun i ddydd Sadwrn a phob 20 munud ar ddydd Sul ac yn ystod y nos.
Beicio
[golygu | golygu cod]Mae llwybrau beicio oddi ar y ffordd yn rhedeg o'r Bae i ganol y Ddinas yn y gogledd, ac o Bentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd yn y gorllewin, yn rhedeg wrth ymyl yr A4232. Mae nifer o gyfleusterau parcio beiciau ar gael yn yr ardal. Mae Trafnidiaeth Cymru yn caniatáu cludo beiciau ar wasanaethau rhwng Bae Caerdydd a Heol y Frenhines Caerdydd.
Parcio
[golygu | golygu cod]Mae gan Gei'r Fôr-Forwyn faes parcio gyda lle i 380 car gyferbyn a chanolfan wyddoniaeth Techniquest.
Galeri
[golygu | golygu cod]-
Tân Gwyllt yn Plas Roald Dahl
-
Noson yng Nghei'r Fôr-Forwyn
-
Ciniawa yng Nghei'r Fôr-Forwyn
-
Cychod yn y cei
-
Cerflun People Like Us fin nos
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Maritime museum 'put on hold'". BBC. 2001-01-31. Cyrchwyd 2008-02-22.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-04-19. Cyrchwyd 2018-05-24.
- ↑ "Mermaid Quay". Benoy. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-08. Cyrchwyd 2012-01-29.