Ceann Loch Goibhle

Oddi ar Wicipedia
Ceann Loch Goibhle
Mathpentref Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirArgyll a Bute Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Alban Yr Alban
Cyfesurynnau56.1719°N 4.9078°W Edit this on Wikidata
Map

Mae Ceann Loch Goibhle (Saesneg: Lochgoilhead) yn bentref ar benrhyn Còmhghall (Saesneg: Cowal), yn Earra-Ghàidheal agus Bòd (Saesneg: Argyll and Bute), yn Ucheldir Yr Alban. Mae’n rhan o Barc Cenedlaethol Llyn Llumonwy a’r Trossachs.

Cyrhaeddodd dynolryw yr ardal dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl. Enw gwreiddiol yr ardal oedd Kil nam Brathairan (eglwys y brodyr) ac adeiladwyd eglwys yno ym 1379[1]. Ceir gweddillion Neolithig yno hefyd. Roedd yr ardal yn gartref i’r Campbeliaid a chyn hynny i’r Lamontiaid.

Mae poblogaeth y pentref oddeutu 400. Tai haf, ail dai neu fythynnod ar log yw tua thraean y tai erbyn hyn. Mae gan Ystâd Drimsinie bentref gwyliau, sy’n dyblu’r boblogaeth ynghanol haf.

Mae swyddfa’r post, archfarchnad fach, eglwys, neuadd y pentref, ysgol gynradd, tafarn a meddygfa.[1]

Gwelir gwiwerod coch, belaod, dwrgwn, ceirw, moch daear, eryrod, huganod, bwncathod, gwylogod, llamhidyddion a morloi yn yr ardal.[2]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

Dolen allanol[golygu | golygu cod]