Castell y Barri
Castell canoloesol ger Y Barri, Bro Morgannwg yw Castell y Barri.
Roedd teulu Gerallt Gymro (y 'Barriaid') yn dod o'r ardal yma; nhw gododd y castell gwreiddiol yma yn yr 11g. Erbyn y 13g roedd dwy adeilad o boptu'r mur.
Roedd gan Lywelyn Bren hefyd gysylltiad â'r castell hwn. Roedd yn orwyr i Ifor Bach. Fe gododd yn erbyn y Saeson yn 1316 mewn gwrthryfel.