Castell Neuschwanstein
![]() | |
Math |
palas, castell, château, atyniad twristaidd ![]() |
---|---|
| |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir |
Schwangau ![]() |
Gwlad |
![]() |
Uwch y môr |
940 metr ![]() |
Cyfesurynnau |
47.55773°N 10.749646°E ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol |
Pensaernïaeth yr Adfywiad Romanésg, yr Adfywiad Gothig ![]() |
Perchnogaeth |
Ludwig II of Bavaria ![]() |
Statws treftadaeth |
architectural heritage monument in Bavaria ![]() |
Sefydlwydwyd gan |
Ludwig II of Bavaria ![]() |
Manylion | |
Mae Castell Neuschwanstein (Almaeneg: Schloss Neuschwanstein) yn balas adfywiad Romanésg 19g ar fryn creigiog uwchben pentref Hohenschwangau ger Füssen yn ne-orllewin Bafaria, Yr Almaen. Roedd y palas wedi ei gomisiynu gan Ludwig II o Bafaria fel encil ac fel teyrnged i Richard Wagner. Yn groes i'r gred gyffredin, talodd Ludwig am y palas allan o'i ffortiwn bersonol a benthyca helaeth, nid ag arian cyhoeddus Bafaria.
Bwriad y palas oedd fel lloches bersonol ar gyfer y brenin meudwyaidd, ond fe'i hagorwyd i'r cyhoedd yn syth ar ôl ei farwolaeth yn 1886. Ers hynny mae dros 60 miliwn o bobl wedi ymweld â Chastell Neuschwanstein. Mae mwy na 1.3 miliwn o bobl yn ymweld bob blwyddyn, gyda hyd at 6,000 y dydd yn yr haf. Mae'r palas wedi ymddangos yn amlwg yn nifer o ffilmiau ac oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer castell Sleeping Beauty yn Disneyland ac yn ddiweddarach, strwythurau tebyg.