Castell Brychan
Math | tŷ, college building, adeilad swyddfa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.42004°N 4.08114°W |
Cod OS | SN5857582261 |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae Castell Brychan yn hen goleg y ddiwinyddiaeth Gatholig. Mae wedi ei lleoli ar ben allt serth i'r gogledd o Aberystwyth, Ceredigion ac mae golygfa bendigedig i'w gael o'i ffenestri o Gastell Aberystwyth, y traeth a'r holl dref bron.
Fe'i hadeiladwyd fel tŷ preifat yn wreiddiol, ar gyfer y cyfansoddwr, David Jenkins. Cafodd ei enwi'n Gastell Brychan oherwydd gwreiddiau David Jenkins - roedd yn frodor o Drecastell, sir Frycheiniog. Hefyd, mae'r enw'n addas i'r adeilad oherwydd y tŵr a'r colofnau sy'n rhan o'r tŷ gwreiddiol.
Trodd yn goleg yn 1923 a gelwyd hi yn St Mary's College, adnabyddwyd hi hefyd fel y Diocesan College, Aberystwyth. Roedd Michael McGrath yn Rheithor yn y coleg cyn iddo ddod yn Archesgob Gatholig Rhufeinig Caerdydd. Bu Saunders Lewis hefyd yn athro yno am gyfnod. Ymestynwyd y tŷ yn sylweddol tra'n goleg, gan ychwanegu adain newydd yn cynnwys capel, ar ochr dde'r tŷ gwreiddiol. Ymestynwyd ymhellach gan Gyngor Llyfrau Cymru, sy'n defnyddio'r adeilad fel pencadlys hyd heddiw.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) Theological Colleges attended by Welsh ministers and priests, Gwefan Genuki Archifwyd 2013-03-08 yn y Peiriant Wayback