Castell Baglan

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Castell Baglan
Math Castell Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Sir Baglan Edit this on Wikidata
Gwlad Baner Cymru Cymru
Cyfesurynnau 51.615653°N 3.797851°W Edit this on Wikidata

Mae Plas' neu Gastell Baglan yn enghraifft prin iawn o gastell carreg a adeiladwyd gan Arglwyddi Cymreig yn y 12g. Saif y castell ar lethrau Mynydd Dinas, rhwng Castell-nedd a Chas-gwent, ar safle cryf, gan ddominyddu'r tir rhwng y bryniau a'r môr, ble saif tre Port Talbot heddiw. Yn y 12g roedd ar y ffin rhwng yr amddiffynwyr a'r goresgynnwyr Normaniaid a'u cestyll yng Nghynffig a Phenybont.[1]

Er bod coedwig yn tyfu dros y safle nawr, mae olion y waliau yn dangos ffurf a maint y castell oedd yn cynnwys tŵr neu neuadd ar y llawr uchaf. Ychydig iawn o dystiolaeth ysgrifenedig sy'n bodoli, ond mae cyfnod cynnar y castell, ei ffurf a'i safle unig yn awgrymu'n gryf ei fod yn gadarnle Arglwyddi Cymreig Afan. Mae'n debyg yr adeiladwyd y castell ar ôl i'r Arglwydd Rhys ddinistrio castell Normanaidd Aberafan ym 1153. Un o Arglwyddi Afan oedd Morgan Gam (1217-1241). Gyda chestyll y Normaniaid ym Mhenybont ac yng Nghynffig, roedd Plas Baglan, felly, ar y ffin.

Defnyddiwyd Castell Baglan i lywodraethu'r ardal ond ar ôl i Arglwyddi Afan adeiladu castell yn Aberafan a chreu tref yn y 14g, collodd ei bwysigrwydd amddiffynol. Datblygodd y castell fel cartre i deulu'r arglwyddi hyn, gyda chysylltiadau yn hwyrach gyda'r bonheddwr a'r bardd Ieuan Gethin ab Ifan ap Lleisan ap Rhys (1400-1480).

Credir mai oedd Plas Baglan "Castell y wiryones", y mwya gorllewinol o'r tri chastell, a nodwyd ym Maglan gan Edward Llwyd (gyda Chastell Bolan a chaer o'r Oes Haearn). Mae'n debyg iddo ddadfeilio'n arw yny 17g.

Mae'r safle yn heneb gofrestredig ond mewn perchnogaeth breifat. Mae llwybr cyhoeddus yn rhedeg yn agos iddo.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Glamorgan: Early Castles” RCAHMW HMSO 1991