Castel del Monte, Puglia
Gwedd
| Math | castell Hohenstaufen yn ne'r Eidal, amgueddfa filwrol, Italian national museum, historical park museum, Museum of the Italian Ministry of Culture |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Andria |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 540 m², 1,806 m² |
| Cyfesurynnau | 41.084754°N 16.270935°E |
| Cod post | 70031, 76123 |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth Gothig |
| Perchnogaeth | Cyngor Gweinidogion yr Eidal |
| Statws treftadaeth | Safle Treftadaeth y Byd, ased diwylliannol yr Eidal |
| Sefydlwydwyd gan | Ffredrig II |
| Manylion | |
| Deunydd | marmor, calchfaen |
Castell yn ne-ddwyrain yr Eidal yw Castel del Monte ("Castell y Mynydd"), sy'n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO. Saif ar fryn y tu allan i ddinas Andria yn rhanbarth Puglia.[1]
Fe'i hadeiladwyd yn ystod y 1240au gan Ffredrig II, Ymerawdwr Glân Rhufeinig. Mae ei gynllun wythonglog yn anarferol iawn ac y mae haneswyr wedi dadlau ynghylch ei bwrpas. Nid oes ganddo ffos na phont godi ac roedd rhai yn ystyried na chafodd erioed ei fwriadu fel caer amddiffynnol; fodd bynnag, mae gwaith archeolegol wedi awgrymu ei fod wedi ei amgylchynu gan fur allanol yn wreiddiol. Yn y 18g ysbeiliwyd marblis mewnol y castell a'r dodrefn a oedd yn weddill.[2]
Mae delwedd y castell yn ymddangos ar y fersiwn Eidalaidd o'r darn arian 1 sent yr Ewro-floc.[3]
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y castell o'r tu blaen
-
Y castell o'r awyr
-
Y cynllun wythonglog
-
Y muriau mewnol
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hubert, Houben. "Castel del Monte". Federiciana. Enciclopedia Italiana. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2011.
- ↑ Tuulse, Armin (2002), Castles of the Western World, Dover Publications, pp. 60–61, ISBN 0-486-42332-8, https://archive.org/details/castlesofwestern0000tuul/page/60
- ↑ "Images of Euro Coins - 1 cent". Cyrchwyd 20 Tachwedd 2022.
