Neidio i'r cynnwys

Caseg Fedi

Oddi ar Wicipedia
Caseg Fedi
Mathysgub, traddodiad Celtaidd Edit this on Wikidata

Yn draddodiadol, yr ysgub olaf o ŷd i'w chasglu o'r cae oedd y Gaseg Fedi neu Caseg Ben Fedi; yn Sir Benfro, yr enw arni ydoedd Gwrach Fedi a cheir tystiolaeth mai'r Wrach oedd yr enw yn Arfon a'r cylch a "Gwrach Fedi" yn Sir Benfro.[1] Roedd ffyniant — yn wir roedd bywyd ei hunan yn dibynnu ar gynhaeaf da ac felly roedd ei gywain yn llwyddiannus yn achlysur i'w ddathlu— llawenhau a chynnig diolch i'r duwiau. Roedd islais erotig i'r ddefod hon, fel gyda defodau eraill a oedd yn ymwneud â'r cynhaeaf. Mae'n rhan o draddodiad hynafol a geir ar draws Ewrop gyfan.

Mewn rhai rhannau dwyreiniol o Gymru plethid y cesyg Medi'n gelfydd iawn gan hepgor weithiau'r ddefod o'i chasglu i'r tŷ.

Y ddefod

[golygu | golygu cod]

Ar ôl torri'r ŷd i gyd, gadawyd twffyn bach ar ôl, heb ei dorri a phlethwyd ef yn ofalus gan un o'r gweision hynaf. Safai pob un o'r cynhaeafwyr (neu'r medelwr) mewn llinell gan daflu cryman (yn eu tro) i geisio torri'r ychydig ŷd oedd ar ôl (sef y gaseg fedi). Tasg y medelwr llwyddiannus oedd cludo'r gaseg i'r ffermdy (neu weithiau'r ysgubor) a'i gosod i hongian wrth y bwrdd bwyd —heb iddi gael ei gwlychu gan y merched.

Ceisiai'r merched daflu dŵr ar y gaseg (symbol o law ar y gwair) ac pe llwyddent yna byddai'r medelwr yn destun gwawd. Os llwydda yna câi cymain o gwrw ag y gallai yfed.

Lwc dda

[golygu | golygu cod]

Cedwid y gaseg fedi tan y cynhaeaf dilynol fel addurn, ond hefyd i ddwyn swyn i ddiogelu'r teulu. Mewn rhai mannau, defnyddid ei hadau ymhen blwyddyn, wedi'u cymysgu gyda'r hadau eraill i'w dysgu sut i dyfu.

Cofnodir defodau tebyg trwy weddill Ewrop ac awgrymodd Syr James Fraser yn ei lyfr The Golden Bough eu bod yn adlewyrchu hen goel fod ysbryd yr ŷd a grymuster tyfiant yn parhau'n fyw yn yr ysgub olaf hon. Diddorol yw sylwi mai "gwrach fedi" y'i gelwid yn Sir Benfro - ac yn Iwerddon (cailleach) —neu'n sgwarnog; gweler Chwedl Taliesin i weld y cysylltiad.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]

Llyfryddiaeth

[golygu | golygu cod]
  • Robin Gwyndaf, Chwedlau Gwerin Cymru, Amgueddfa Werin Cymru, 1995
  • Evan Isaac, Coelion Cymru (Aberystwyth, 1938), tud. 170-72.