Caryl Hughes
Caryl Hughes |
---|
Soprano o Gymru o Aberdaron, Pen Llŷn, yw Caryl Hughes sydd wedi perfformio ar lwyfannau'r byd. Yn ddiweddar, perfformiodd yng nghynhyrchiad byd-eang Y Tŵr ar gyfer Theatr Cerdd Cymru.
Hyfforddiant
[golygu | golygu cod]Hyfforddwyd Caryl mewn astudiaethau lleisiol ac opera yn yr Academi Gerdd Frenhinol. Yna, aeth ymlaen i astudio yn Academi Llais Caerdydd. Mae wedi ennill llawer o wobrau; fel W. Towyn Roberts yn yr Eisteddfod Genedlaethol a gwobr llais rhyngwladol Stuart Burrows. Hefyd, bu’n cystadlu yng nghystadleuaeth Cantorion Cymru yn 2006 a chystadleuaeth canu ryngwladol Les Azuriales yn 2010.
Perfformiadau
[golygu | golygu cod]Mae canu mewn cyngerdd gyda Bryn Terfel ar gyfer Raymond Gubbay ymhlith yr uchafbwyntiau gyrfaol. Uchafbwynt arall yn ei yrfa yw perfformio yn y Parc Grange a Gŵyl y Gelli. Wedi perfformio caneuon Caberet Britten yn gwyliau Aix-en-Provence ac Aldeburgh yn 2009, rhyddhaodd Caryl ddisg yn ddiweddarach gyda Malcolm Martineau.