Caroline Aherne

Oddi ar Wicipedia
Neidio i: llywio, chwilio
Caroline Aherne
Ganwyd Caroline Mary Aherne
(1963-12-24)24 Rhagfyr 1963
Ealing, Llundain
Bu farw 2 Gorffennaf 2016(2016-07-02) (52 oed)
Timperley, Manceinion, Lloegr
Alma mater Prifysgol John Moores Lerpwl
Gwaith Comediwraig, sgriptiwr ac actores
Priod Peter Hook (1994–1997) (ysgarwyd)

Actores a chomediwraig Seisnig oedd Caroline Mary Aherne (24 Rhagfyr 19632 Gorffennaf 2016). Mae'n fwyaf adnabyddus am: Mrs Merton, The Fast Show ac The Royle Family. Ei llais hi oedd i'w glywed yn y gyfres Gogglebox.

Cafodd ei geni yn Ealing, Llundain, i deulu o Wyddelod a oedd yn gweithio ar y rheilffyrdd.[1] Symudodd y teulu pan oedd hi'n ddwy oed i Wythenshawe, Manceinion.[2] Fel ei brawd, roedd yn rhannol ddall mewn un llygad.[3] Aeth i ysgol Hollies Convent Grammar School yn West Didsbury ac yna bu'n astudio drama ym Mhrifysgol John Moores, Lerpwl.[1]

Teledu[golygu | golygu cod y dudalen]

  • The Fast Show (1994-1997)
  • The Mrs Merton Show (1994-1997)
  • The Royle Family (1998-2012)
  • After Hours (2015)

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]