Carchar Biwmares

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Carchar Biwmares
Beaumaris Gaol.jpg
Mathcarchar Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1974 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolArdaloedd Cadwriaeth Biwmares Edit this on Wikidata
LleoliadBiwmares Edit this on Wikidata
SirCymuned Biwmares Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Uwch y môr9.8 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau53.2633°N 4.09509°W Edit this on Wikidata
Statws treftadaethadeilad rhestredig Gradd I Edit this on Wikidata
Manylion

Hen garchar yw Carchar Biwmares yn Biwmares ar Ynys Môn. Er nad yw'n cael ei ddefnyddio bellach nid yw'r adeilad wedi newid llawer a mae nawr yn amgueddfa sydd ar agor i ymwelwyr, gyda tua 30,000 yn ymweld bob blwyddyn.

Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]

Cynlluniwyd y carchar gan Joseph Hansom ac Edward Welch, ac fe'i hadeiladwyd yn 1829.[1][2] Fe'i ehangwyd yn 1867 i ddal tua 30 carcharor ond fe gaeodd gwta 11 mlynedd yn ddiweddarach. Defnyddiwyd yr adeilad fel gorsaf heddlu tan y 1950au pan ddaeth, yn rhyfedd, yn glinig i blant cyn dod yn amgueddfa yn 1974. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd seiren cyrch awyr y dre wedi ei osod yn y carchar ac roedd yn ei le yn ystod y Rhyfel Oer i rybuddio yn erbyn ymosodiadau niwclear. Nid yw capel y carchar yn rhan o'r adeiladau gwreiddiol, ac fe ddaeth y seddi a'r pulpud o gapel arall ar yr ynys, oedd yn cael ei adnewyddu. Mae'n bosib dweud nad oedd y seddi yn rhai gwreiddiol am fod trefn y rhifo yn anghywir ac nid yw'r seddi wedi eu clymu i'r llawr.

Gallai cyfundrefn y carchar edrych yn filain i ymwelydd o'r oes hon, ond yn ei ddydd roedd yn cael ei ystyried yn drefn fwy dyngarol na carchardai blaenorol. Er hynny, roedd carcharorion yn cael eu cadw mewn trefn gyda chadwyni, chwipio ac arwahanu mewn celloedd tywyll am hyd at dri diwrnod. Mae gan y carchar un o'r melinau traed olaf ym Mhrydain sy'n dal i weithio. Mae'r felin draed yn Biwmares yn anarferol am ei fod yn arfer pwmpio dŵr i ben yr adeilad ar gyfer ei ddefnyddio yn y celloedd, felly er bod y carcharorion yn cael eu gorfodi i weithio, roedd rheswm da dros wneud hynny.

Dienyddiadau[golygu | golygu cod y dudalen]

Dim ond dau achos o grogi a ddigwyddodd ym Miwmares. Yr achos cyntaf oedd William Griffith, yn 1830, am ymgais i lofruddio ei wraig gyntaf. Fe ymatebodd yn wael i'r newyddion ei fod am grogi ac ar ddiwrnod y dienyddiad, ceisiodd atal y swyddogion rhag agor drws ei gell. Yn y diwedd fe orfodwyd y drws ar agor ac roedd yn rhaid ei hanner lusgo a hanner gario i'r grocbren.

Yr ail achos, a'r olaf, oedd Richard Rowlands yn 1862, ar ôl iddo ei gael yn euog o lofruddio ei dad yng nghyfraith. Fe brotestiodd ei fod yn ddieuog hyd at y foment olaf a'r chwedl yw ei fod wedi melltithio cloc yr eglwys o'r crocbren, gan ddweud y byddai pedwar wyneb y cloc byth yn dangos yr un amser eto, os oedd yn ddieuog. Roedd hyn yn wir am gyfnod, er mai'r esboniad rhesymegol am hyn oedd bod gwynt yn taro'r wyneb deheuol.

Claddwyd y ddau ddyn tu fewn muriau'r carchar mewn pydew calch, er nad yw'r union leoliad yn hysbys. Mae'r rhybedi metel oedd yn dal y grocbren yn ei le, ynghyd â'r ddau ddrws yr oedd y dyn dan gondemniad yn cerdded trwyddo yn gallu cael ei gweld o'r stryd tu allan i furiau'r carchar.

Diangfeydd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dim ond un achos o garcharor yn dianc a gafwyd trwy gydol hanes y carchar. Fe ddihangodd y carcharor, John Morris, ar 7 Ionawr 1859, gan ddefnyddio rhaff yr oedd wedi dwyn wrth weithio gydag e. Er ei fod wedi torri ei goes wrth ddianc fe lwyddodd i ddianc o'r dref, cyn cael ei ddal eto.

Ysbrydion honedig[golygu | golygu cod y dudalen]

Fe ymwelodd y gyfres deledu Most Haunted y carchar ar gyfer sioe a ddarlledwyd ar 17 Ionawr 2007 i ymchwilio i chwedlau am fwganod honedig yn yr adeilad.

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Davies, John; Jenkins, Nigel (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 713. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  2. Harris, Penelope, "The Architectural Achievement of Joseph Aloysius Hansom (1803-1882), Designer of the Hansom Cab, Birmingham Town Hall and Churches of the Catholic Revival", The Edwin Mellen Press, 2010, ISBN 0-7734-3851-3, p.13.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod y dudalen]