Capital T (cerddor)

Oddi ar Wicipedia
Capital T
FfugenwCapital T Edit this on Wikidata
Ganwyd1 Mawrth 1991 Edit this on Wikidata
Prishtina Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCosofo Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Sami Frashëri High School, Prishtina, Kosovo Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, artist recordio Edit this on Wikidata
Arddullhip hop Edit this on Wikidata
TadAgim Ademi Edit this on Wikidata

Capital T yw enw llwyfan Kushtrim Ademi (ganwyd 1 Mawrth 1991 yn Priština, Cosofo). Mae'n gyfansoddwr, rapiwr a chanwr sy'n canu yn yr iaith Albaneg yn arbennig yn tafodiaeth Geg a siaradir yng ngogledd Albania a Kosofo a'i ddinas enedigol, Prishtina (Priština), sef prifddinas Cosofo.

Bywgraffiad[golygu | golygu cod]

Mynychodd Kushtrim Ademi ysgol uwchradd (Gymnasium) Sami Frashëri yn Priština lle ddechreuodd ei ddiddordeb mewn cerddoriaeth. Ysbrydolwyd ef i ddechrau rapio gan ei ewythr, brawd ei fam, y rapiwr Besnik Canolli, un hanner o'r ddeuawd rapio Albaneg, 2po2, gydag Arben Mehmeti.

Yn 18 oed, canodd Kushtrim Ademi y gân, Shopping ar Video Festi Muzikor 2009, ac yna, flwyddyn yn hwyrach, cyhoeddwyd Shum Nalt, gwaith ar y cyd gyda Dafina Zeqiri a 2po2. Yn 2010 canodd y gân Diva gydag Eni Koçi yng nghystadleuaeth Kënga Magjike gan gyrraedd y rownd gyn-derfynnol.

Ers hynny, mae Ademi, o dan ei enw llwyfan Capital T wedi perfformio a chyfansoddi. Mae hefyd yn arddel y llys-enw, Trimi. Ymysg ei hits mwyaf mae Një Ëndërr (Breuddwyd) gydag Alban Skenderai; Pse po ma lun lojen (Pam bod hi mor hir) a Pasha Jeten. Ffilmiwyd fideo Pasha Jeten (Gyda bywyd) yn Skopje, prifddinas Gweriniaeth Macedonia. Er bod y pensaerniaeth yn ymdebygu ar yr olwg gyntaf i Paris, Skopje yw'r lleoliad. Mae oddeutu 20% o boblogaeth Macedonia yn Albaneg.

Bywyd personol[golygu | golygu cod]

Bu Capital T yn byw am gyfnod yn yr Unol Daleithiau, ond mae bellach nôl yn ei famwlad. Authentic Entertainment, lapel recordio ei ewythr, 2po2 sy'n cyhoeddi mwyafrif ei gerddoriaeth.

Disgyddiaeth[golygu | golygu cod]

Albymau[golygu | golygu cod]

  • 2010: Replay
  • 2012: Kapo
  • 2015: Slumdog Millionaire
  • 2017: Winter Is Here

Senglau[golygu | golygu cod]

2008
  • Shopping
2009
  • Shum Nalt
  • Supersweet
2010
  • Ma E Mira
2011
  • Make a wish
  • Ku Jon Paret
  • U Bo Von
2012
  • Veç Asaj
  • Karma
  • As Gucci As Luis
2013
  • Zero
  • Dit E Re
2014
  • Hapat E Mi
  • Posh (feat. 2po2)
  • Ballin (feat. Mc Kresha)
  • Kur Fol Zemra
2015
  • Qka Don Ajo
  • Pare Pare
2016
  • Hitman
  • Thirrem n Telefon (feat. Granit Derguti)
  • Bongo (feat. Dhurata Dora)
  • C'est La guerre
  • Koka Kola
2017
  • UNO
  • Hatixhe
  • Lule
  • Andiamo (feat. Ardian Bujupi)
  • Pse Po Ma Lun Lojen
  • Pa Cenzur (feat. Vig Poppa & Lyrical Son)
  • NUMRA (feat McKresha)

Senglau ar y Cyd[golygu | golygu cod]

2013
2014
  • Prishtinali (2po2 feat. DJ Blunt, Lumi B, Lyrical Son, Capital T, Real 1, Mixey & DJ Flow)
  • Sonte (Flori Mumajesi feat. Capital T)

Dolenni[golygu | golygu cod]