Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Tabernacl, Caerdydd
Math | eglwys, capel |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | canol dinas Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Sir | Caerdydd, Castell, Caerdydd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 10 metr |
Cyfesurynnau | 51.4785°N 3.17617°W |
Cod post | CF10 1AJ |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae Capel y Bedyddwyr Cymraeg, Tabernacl yn gapel Cristnogol sydd wedi bod yn gwasanaethu Bedyddwyr Cymraeg yn Yr Ais, canol Caerdydd, ers 1821.[1]
Hanes a disgrifiad
[golygu | golygu cod]Cafodd y capel gwreithiol ei adeiladu ym 1821, wedyn ailadeiladwyd ym 1842 a 1865. Cafodd y capel presennol (1865) ei cynllunio gan bensaer o Gaerdydd, John Hartland.[1]
Ceir ffenestri lliw ar hyd y capel gan gynnwys dwy ffenestr o fedydd yr Iesu gan Goodwin Lewis a chopi o'r Swper Olaf gan Leonardo Da Vinci. Yn 1907 gosodwyd organ newydd gan gwmni Griffiths & Stroud o Gaerfaddon.[2]
Mae'n dal bron i 1,000 o addolwyr.[2]
Gweinidogion
[golygu | golygu cod]Ers 1821 bu 11 o weinidogion yno, sef y Parchgn. Griffith Davies, Robert Pritchard, Christmas Evans, David Jones, Charles Davies, J. William Hughes, Myrddin Davies, Raymond William a Denzil John. Y gweinidog ers 2022 yw'r Parch. Ddr Risa Hunt.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.53–4
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 Taflen Wybodaeth Leol Caerdydd 19. Tud 7/8. Cymdeithas Treftadeath y Capeli (oddi ar wefan capeli.org.uk). (Saesneg). Adalwyd 1 Medi 2024.
- ↑ 2.0 2.1 Wooding, Jonathan M (Awst 2011). A guide to the churches and chapels of Wales. Gwasg Prifysgol Cymru (Saesneg)
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Gwefan y capel Archifwyd 2017-09-14 yn y Peiriant Wayback