Capel Seion, Llanrhaeadr-ym-Mochnant
Neidio i'r panel llywio
Neidio i'r bar chwilio
![]() | |
Math | capel ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | Seion ![]() |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanrhaeadr-ym-Mochnant ![]() |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 153.8 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 52.8252°N 3.30401°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II* ![]() |
Manylion | |
Capel yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys, Cymru, yw Capel Seion. Ailadeiladwyd y capel Methodus hwn ar ddechrau'r 1900au yn arddull y Mudiad Celf a Chrefft.[1]
Hanes[golygu | golygu cod y dudalen]
Agorwyd y capel gwreiddiol yn y flwyddyn 1834. Ychwanegwyd ystafelloedd dosbarth ar gyfer yr Ysgol Sul yn 1870. Yn 1892 ychwanegwyd tŷ capel ac adeilad ar wahân ar gyfer yr Ysgol Sul.[1]
Yn 1904 ailadeiladwyd adeilad y capel, wedi'i gynllunio gan y penseiri Shayler a Ridge o Groesoswallt. Mae'n gapel o waith carreg gyda tho o lechi yn arddull Gothig y Mudiad Celf a Chrefft.[1]
Dynodwyd Capel Seion yn adeilad rhestredig Gradd II*. Fe'i ystyrir "yn gapel Mudiad Celf a Chrefft arbennig o gain ac yn un o'r enghreifftiau gorau o'i fath yng Nghymru."[1]
Llyfryddiaeth[golygu | golygu cod y dudalen]
- Owen, D. Huw, Capeli Cymru (Talybont: Y Lolfa, 2005), tt.119–20