Capbreton
Gwedd
| Math | cymuned |
|---|---|
| Poblogaeth | 9,184 |
| Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | canton of Saint-Vincent-de-Tyrosse, Landes, arrondissement of Dax |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 21.75 km² |
| Uwch y môr | 1 metr, 0 metr, 51 metr, 14 metr |
| Yn ffinio gyda | Soorts-Hossegor, Angresse, Bénesse-Maremne, Labenne |
| Cyfesurynnau | 43.6419°N 1.4322°W |
| Cod post | 40130 |
| Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Capbreton |
![]() | |
Cymuned (commune) yw Capbreton (Gasgwyneg ac Ocsitaneg: Cap Berton, ynganer 'Cap-bertou'), a leolir ar lan Cefnfor Iwerydd yn département Landes yn rhanbarth Aquitaine. Poblogaeth: 7,565 (2006).
Sefydlwyd tref fechan ar y safle yn y 12g. Mae'n hen borthladd pysgota sydd wedi troi'n ganolfan gwyliau boblogaidd. Ceir marina mawr yno.
Daw enw Ffrangeg y dref (hen ffurf: Cap-Breton) o'r enw Gasgwyneg, gyda'r 'r' yn symud trwy affeithiad. Er gwaethaf yr enw, does dim cysylltiad â Llydaw (Bretagne) felly. Am gyfnod byr yn ystod y Chwyldro Ffrengig cafodd yr enw gwneud Cap-Brutus, ar ôl y gwleidydd Rhufeinig, un o arwyr y Chwyldro.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- (Ffrangeg) Gwefan swyddogol y dref
