Neidio i'r cynnwys

Canser colorectaidd

Oddi ar Wicipedia
(Ailgyfeiriwyd o Canser y colon)
Canser colorectaidd
Enghraifft o:dosbarth o glefyd Edit this on Wikidata
Mathcolorectal neoplasm, canser y coluddyn mawr, clefyd Edit this on Wikidata
Arbenigedd meddygolOncoleg edit this on wikidata
Dynodwyr
Freebase/M/01dcqj edit this on wikidata
OMIM114500 edit this on wikidata
UMLS CUIC1527249 edit this on wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Mae canser colorectaidd (CRC), a elwir hefyd yn ganser y coluddyn a chanser y perfeddyn mawr, yn ddatblygiad canseraidd o'r coluddyn neu'r rectwm (rhannau o'r coluddyn mawr).[1] Twf annaturiol o gelloedd yw canser, ac maent â'r gallu i ymosod ar, neu ledaenu i rannau eraill o'r corff.[2] Gall arwyddion a symptomau gynnwys gwaed yn y carthion, newid mewn symudiadau'r coluddyn, colli pwysau a blinder cyson.[3]

Deillia'r rhan fwyaf o ganserau colorectaidd o henaint a ffordd o fyw unigolyn, ac mewn gwirionedd nifer fechan o achosion sy'n datblygu o ganlyniad i anhwylderau genetig.[4] Ymhlith y ffactorau risg y mae diet gwael, gordewdra, ysmygu a diffyg ymarfer corff.[5] Ceir arferion dietegol penodol sy'n cynyddu'r risg hefyd gan gynnwys gormod o gig wedi ei brosesu a chig coch yn ogystal ag alcohol. Ffactor risg arall yw clefyd llid y coluddyn, sy'n cynnwys clefyd Crohn a llid briwiol y coluddyn. Ymhlith yr anhwylderau genetig a all achosi canser colorectaidd y mae polypedd chwyddol teuluol a chanser colonol di-polypedd etifeddol; fodd bynnag, mae'r rhain yn cynrychioli llai na 5% o achosion. Dechreua fel tiwmor diniwed, yn aml ar ffurf polyp, ond dros amser fe ddaw'n ganseraidd.

Gellir canfod canser y coluddyn trwy dynnu sampl o'r coluddyn mawr yn ystod sigmoidosgopi neu colonosgopi. Dilynir y broses hynny gan ddelweddu meddygol er mwyn archwilio lledaeniad y clefyd. Mae cynnig sgrinio yn ddull effeithiol o atal a lleihau marwolaethau yn deillio o ganser y coluddyn mawr. Argymhellir sgrinio a nifer o brosesau gwarchodol eraill i bobl rhwng 50 a 75 mlwydd oed.[6] Gellir dileu polypau bach yn ystod colonosgopi. Os canfyddir polyp neu diwmor mawr, perfformir biopsi er mwyn gwirio nad yw'n ganseraidd. Mae asbrin a chyffuriau gwrthlidiol di-steroidaidd eraill yn lleihau'r risg.[7] Fodd bynnag, ni argymhellir eu defnyddio mewn modd cyffredinol o ganlyniad i'w sgîl-effeithiau.[8]

Wrth drin canser colorectaidd gellir cyfuno llawdriniaethau, therapïau ymbelydredd, cemotherapi a therapïau targed. Mae modd trin a gwella canserau sydd wedi'u cyfyngu o fewn muriau'r coluddyn mawr gyda llawdriniaethau. Serch hynny, yn fwy aml na pheidio, ni ellir gwella canserau sydd wedi lledaenu'n eang, ac yn y fath achosion, rhoddir pwyslais cynyddol ar wella ansawdd bywyd a symptomau'r dioddefwr.[1] Mae oddeutu 65% o gleifion canser colorectaidd yn byw'n hirach na chyfnod o bum mlynedd wedi eu diagnosis yn yr Unol Daleithiau.[9] Dibynnir cyfraddau goroesi unigolion ar ddatblygiad y canser, y posibiliad o dynnu a dileu'r canser ar ffurf llawdriniaeth, ynghyd ag iechyd cyffredinol y person. Canser colorectaidd yw'r trydydd math mwyaf cyffredin o ganser ar draws y byd (10% o achosion).[10] Yn 2012 daeth 1.4 miliwn o achosion newydd i'r golwg, gan arwain at 694,000 o farwolaethau yn yr un flwyddyn. Mae'r cyflwr yn fwy cyffredin mewn gwledydd datblygedig, lle leolir 65% o'r achosion. Nid yw'n taro menywod ar yr un raddfa a dynion.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 "Colon Cancer Treatment (PDQ®)". NCI. 2014-05-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 29 Mehefin 2014.
  2. "Defining Cancer". National Cancer Institute. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 25 Mehefin 2014. Cyrchwyd 10 Mehefin 2014.
  3. "General Information About Colon Cancer". NCI. 2014-05-12. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 29 Mehefin 2014.
  4. "Colorectal Cancer Prevention (PDQ®)". National Cancer Institute. 2014-02-27. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 Gorffennaf 2014. Cyrchwyd 29 Mehefin 2014.
  5. World Cancer Report 2014. World Health Organization. 2014. tt. Pennod 5.5. ISBN 9283204298.
  6. Bibbins-Domingo, Kirsten; Grossman, David C.; Curry, Susan J.; Davidson, Karina W.; Epling, John W.; García, Francisco A. R.; Gillman, Matthew W.; Harper, Diane M. et al. (21 Mehefin 2016). "Screening for Colorectal Cancer". JAMA 315 (23): 2564–75. doi:10.1001/jama.2016.5989. PMID 27304597. https://archive.org/details/sim_jama_2016-06-21_315_23/page/2564.
  7. Thorat, MA; Cuzick, J (Dec 2013). "Role of aspirin in cancer prevention.". Current Oncology Reports 15 (6): 533–40. doi:10.1007/s11912-013-0351-3. PMID 24114189.
  8. "Routine aspirin or nonsteroidal anti-inflammatory drugs for the primary prevention of colorectal cancer: recommendation statement.". American Family Physician 76 (1): 109–13. 2007. PMID 17668849. Archifwyd o y gwreiddiol ar 14 Gorffennaf 2014. https://web.archive.org/web/20140714192923/http://www.aafp.org/afp/2007/0701/p109.html.
  9. "SEER Stat Fact Sheets: Colon and Rectum Cancer". NCI. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 24 Mehefin 2014. Cyrchwyd 18 Mehefin 2014.
  10. World Cancer Report 2014. World Health Organization. 2014. tt. Chapter 1.1. ISBN 9283204298.