Caniadaeth y Cysegr

Oddi ar Wicipedia

Mae Caniadaeth y Cysegr yn rhaglen radio grefyddol Gristnogol o ganu emynau cynulleidfaol, a gynhyrchwyd yn yr iaith Gymraeg gan BBC Radio Cymru a chwmni Parrog. Yn draddodiadol yn cael ei darlledu ar brynhawn Sul gydag R. Alun Evans yn cyflwyno’r emynau, mae’n cynnwys detholiadau wedi’u recordio o Gymanfaoedd Canu o bob rhan o Gymru. Mae'r cynulleidfaoedd yn canu mewn harmoni pedwar llais.

Fe wnaeth ddechrau ddarlledu ar 15 Chwefror 1942, dyma'r rhaglen yn yr iaith Gymraeg sydd wedi para hiraf.[1][2]

Yn ei archif mae ganddo recordiad o bob emyn yn y llyfr emynau Cymraeg caneuon ffydd.[1]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod]

  1. 1.0 1.1 "Non's contribution to long-running radio series Caniadaeth y Cysegr – Swansea Mumbler" (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-04-03.
  2. "BBC Welsh hymn series celebrates 75 years". www.churchtimes.co.uk. Cyrchwyd 2022-04-03.

Dolenni allanol[golygu | golygu cod]