Cani
Gwedd
| Math | ynysfor |
|---|---|
| Cylchfa amser | UTC+01:00 |
| Daearyddiaeth | |
| Sir | Bizerte |
| Gwlad | Tiwnisia |
| Gerllaw | Y Môr Canoldir |
| Cyfesurynnau | 37.355°N 10.1228°E |
![]() | |

Mae Cani yn ynys greigiog sy'n gorwedd yn y Môr Canoldir oddi ar borthladd Bizerte, gogledd Tiwnisia.
Ceir goleudy ar yr ynys a oleuwyd am y tro cyntaf yn y flwyddyn 1860. Dyma'r ail oleudy i gael ei godi yn y wlad, ar ôl goleudy Sidi Bou Saïd (ar Gwlff Tiwnis). Ar ôl i'r llong Spartan suddo gerllaw ar 5 Gorffennaf 1856, gan golli 726 o filwyr, gofynnodd llywodraeth Prydain am ganiatâd gan y bey i godi goleudy yno. Rhoddodd y bey ei ganiatâd ac aeth mor bell ag i gyllido'r brosiect o'i bwrs ei hun.
