Calypso (lloeren)
Jump to navigation
Jump to search
Calypso yw'r unfed ar ddeg o loerennau Sadwrn a wyddys:
Cylchdro: 294,660 km oddi wrth Sadwrn
Tryfesur: 26 km (34 x 22 x 22)
Cynhwysedd: ?
Ym mytholeg Roeg roedd Calypso yn nymff o'r môr a achosodd i Odysëws oedi ar ei hynys am saith mlynedd.
Cafodd y lloeren ei darganfod gan Pascu, Seidelmann, Baum a Currie ym 1980 gyda chamerâu prototeip a fyddai wedyn yn cael eu defnyddio gan y Telesgop Gofod Hubble.
Pwynt Lagrange llusgol Tethys yw Calypso.
Un o loerennau lleiaf Cysawd yr Haul yw Calypso.