Pwynt Lagrange

Oddi ar Wicipedia
Pwyntiau Lagrange

Dangosodd Joseph-Louis Lagrange fod tri chorff yn gallu gorwedd ar frigau triongl hafalochrog sy'n troi yn ei blaen. Os ydy un o'r cyrff yn ddigon enfawr o'i gymharu â'r lleill, yna fe fydd y ffurfweddiad trionglog yn sefydlog. Gelwir y fath gorff yn "Trojan". Mae brig mwyaf blaenllaw'r triongl yn cael ei adnabod fel y pwynt Lagrange arweiniol neu L4; y pwynt Lagrange llusgol neu l5 ydy'r brig olaf. Cyd-linellol gyda'r ddau gorff mawr ydy L1, L2 a L3, pwyntiau cyfantoledd ansefydlog.