Callwen

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search
Callwen
All Saints, Cellan - geograph.org.uk - 49752.jpg
Eglwys yr Holl Saint, Cellan.
Ganwyd 0530 Edit this on Wikidata
Defynnog Edit this on Wikidata
Dinasyddiaeth Baner Cymru Cymru
Galwedigaeth arweinydd crefyddol Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl 1 Tachwedd Edit this on Wikidata

Santes oedd Callwen a drigai yn gynnar yn y 6g. Roedd hi yn wyres neu gor-wyres i Brychan Brycheiniog. Rhanna ei gŵyl mabsant gyda'i chwaer Gwenfyl ar 1 Tachwedd.[1][2] .

Eglwysi Callwen[golygu | golygu cod y dudalen]

Sefydlodd Callwen llan yn Ystradgynlais. Enw eglwys pentref Defynnog ym Mrycheiniog, de Powys oedd Santes Callwen, ac er i'r Eglwys yng Nghymru newid yr enw pan godwyd eglwys newydd yn 1893, mae'r trigolion lleol yn parhau i alw'r eglwys yn "Santes Callwen".

Ysgrifennodd Theophilus Jones yn 1809 y gelwid y capel hwn yn Cael Glyntawe ac weithiau yn Gapel Callwen, sy'n tarddu o 'Cellwen' (Fairwood), gair sy'n disgrifio ei edrychiad yn yr hen ddyddiau.[3] Ond yn ôl Rice Rees a sgwennai yn 1836, capel anwes oedd Santes Callwen, ac nid oes sôn am yr enw 'Cellwen'. Yn 1964–65 ailgysegrwyd yr eglwys newydd i Sant Ioan.[4] ond mae'r trigolion lleol yn parhau i alw'r eglwys yn "Sant Callwen".

Ceir pentref o'r enw 'Cellan' ar lan Afon Teifi yn ne Ceredigion, ac yn ôl John Thomas Evans yn 1914, er mai 'Eglwys yr Holl Seintiau' yw enw eglwys y pentref, "caiff hefyd ei galw ar ôl Santes Callwen, er bod y wybodaeth amdani'n eitha niwlog ac ni chaiff ei henwi yn y rhestrau. Er hyn mae Edward Lhwyd yn nodi mai enw'r ffynnon leol yw Ffynnon Callwen ac mai'r ffynnon hon a roddodd ei henw i'r pentref." Mynnodd Edward Anwyl, fodd bynnag, nad oedd unrhyw gysylltiad rhwng Cellan a Challwen.[5]

Mae yn bosibl ei bod hi yr un santes a Clodwen

Gweler hefyd[golygu | golygu cod y dudalen]

Dylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Sheehan 2001, t. 344.
  2. Rees 1836, t. 153.
  3. Jones 1809, t. 683.
  4. Ball 2007.
  5. Evans 1914, t. 18.