Calico Jack
Calico Jack | |
---|---|
Ganwyd | 27 Rhagfyr 1682 Bryste |
Bu farw | 18 Tachwedd 1720, 17 Tachwedd 1720 Port Royal |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | gwleidydd, môr-leidr |
Partner | Anne Bonny |
Roedd John Rackham ( 26 Rhagfyr, 1682 – 18 Tachwedd, 1720), a oedd yn cael ei adnabod fel Calico Jack, yn forleidr Seisnig a oedd yn gweithredu yn y Bahamas ac yng Nghiwba yn gynnar yn y 18g. Roedd ei lysenw'n deillio o'r dillad calico a wisgai, tra bod Jack yn foesenw ar gyfer "John".
Roedd Rackham yn weithgar rhwng 1718 a 1720, yn ystod "Oes Aur y Môr-ladron" a barhaodd rhwng 1650 a 1725. Fe'i cofir yn bennaf am gael dwy aelod benywaidd yn ei griw: Mary Read a'i gariad, Anne Bonny.
Diorseddodd Rackham Charles Vane o'i swydd fel capten y sloop Ranger, ac yna mordeithio Ynysoedd Leeward, Sianel Jamaica a'r Windward Passage. Derbyniodd bardwn ym 1719 a symudodd i New Providence, lle cyfarfu ag Anne Bonny, a oedd yn briod â James Bonny ar y pryd. Dychwelodd i fôr-ladrata ym 1720 trwy ddwyn sloop Prydeinig ac ymunodd Anne ag ef. Roedd eu criw newydd yn cynnwys Mary Read, a oedd yn cel-wisgo fel dyn ar y pryd. Ar ôl ychydig o lwyddiant, cipiwyd Rackham gan yr heliwr môr-ladron Llynges Frenhinol Prydain, Jonathan Barnet ym 1720.[1] Cafodd ei roi ar brawf gan Syr Nicholas Lawes, Llywodraethwr Jamaica, a chafodd ei grogi ym mis Tachwedd y flwyddyn honno yn Port Royal, Jamaica.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Charges of Piracy Against Calico Jack and his Crew". Pirate Documents. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 6 Hydref 2014. Cyrchwyd 14 Mawrth 2014.
- ↑ "Did English pirate Calico Jack design the Jolly Roger?". Telegraph. 5 Rhagfyr 2016.