Cadriaith

Oddi ar Wicipedia
Jump to navigation Jump to search

Bardd chwedlonol yw Cadriaith - hefyd Cadriaith fab Saidi neu Cadriaith fab Porthor Gadw. Ceir y cyfeiriad mwyaf adnabyddus ato yn y chwedl fwrlesg Breuddwyd Rhonabwy lle mae'n un o feirdd llys a chynghorwyr y Brenin Arthur.

Ystyr yr enw 'Cadriaith' yw "un gwych neu rymus ei iaith" (Cymraeg Canol: cadr + iaith). Mae'n weddol sicr mai enw gwneud ydyw a chredir fod yr enw - a'r cymeriad ei hun - yn ddychan ar yr ieithwedd a geirfa hynafol, astrus i'w dehongli, sy'n nodweddiadol o waith rhai o'r Gogynfeirdd.[1]

Yn y chwedl, dywedir ei fod yn gynghorwr heb ei ail, er ei fod mor ifanc. Un diwrnod, daw beirdd ar daith clera i ddatgan eu cerddi yn llys Arthur. Mae'r cerddi hyn mor dywyll fel bod neb yn y llys ac eithrio Cadriaith yn medru eu deall o gwbl, heblaw eu bod yn foliant i'r brenin.[2]

Cyfeirir at Gadriaith yn y Trioedd lle ceir yr enw amgen 'Cadriaith mab Porthawr Gadw' (neu '... Gandwy') mewn rhai fersiynau. Fe'i rhestrir fel un o 'Dri Unben Llys Arthur'. Cyfeirir ato yn Englynion y Clywaid hefyd, lle y'i disgrifir fel 'Cadriaith... / fab porthawr, milwr araith'.[3]

Cyfeiriadau[golygu | golygu cod y dudalen]

  1. Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru d.e. Cadriaith.
  2. Melville Richard (gol.), Breudwyt Ronabwy (Caerdydd, 1948), tud. 20.
  3. Rachel Bromwich (gol.), Trioedd Ynys Prydein (Caerdydd, 1991), tud. 291 a thriawd 9.